Hanner Ffordd yn wythnos newydd C2!
Helo bawb!
Wel, 'da ni 'di cyrraedd nos Fercher, bron iawn hanner ffordd trwy'r wythnos newydd ar C2! Dwi wrth fy modd hyd yn hyn; wedi cael rhoi trefn ar yr wythnos hefo Elen Pencwm; wedi cael cwis bach neithiwr; a heno, uchafbwynt yr wythnos i mi - noson lle bydda' i'n rhoi sylw arbennig i be' sy'n digwydd ym myd cerddoriaeth Cymru.
Yn amlwg, mi fydda i'n trio chwara' cerddoriaeth wych BOB noson - yn barod yr wythnos yma 'da ni di cael caneuon newydd The Gentle Good, Mr Huw, Jonny, Cowbois Rhos Botwnnog a Gruff Rhys - ond heno, dwi'n gobeithio rhoi crynodeb o bopeth difyr sy'n digwydd yn gerddorol yma yng Ngymru... wel, cymaint ac y galla i beth bynnag! Gwyn Eiddior fydd yma i son am brosiecte newydd VVolves a Land Of Bingo, am y CDs gwych sy' 'di'n cyrraedd ni'n ddiweddar, ac yn awgrymu ambell gig i ni.
Felly dewch draw am 8pm am hynny - ac wrth gwrs, y gymysgedd arferol o gerddoriaeth a hwyl.
Lisa
x
.