Gruff Rhys ar C2 heno am 10pm
Wel helo. Helo enfawr. Gobeithio bod chi'n iawn. Cyfnod cyffrous i C2 wrth i ni ddechre amserlen newydd heno. Magi ar y we o 7yh, Huw Evans bob nos Wener, Lisa Gwilym am 8yh! Lot o bethe da!
Fyddai mlaen rhwng 10 a 12 bob nos Lun o hyn ymlaen. Fydd ne sesiynnau byw (Masters in France wthnos nesa), a heno Gruff Rhys fydd fy ngwestai.
Mae gan Gruff albym newydd allan yn fuan, ac mae ei ffilm gwych Seperado! allan ar dvd. Nath Gruff adeiladu gwestai wedi ei neud o boteli shampw yn ddiweddar hefyd.
Edrych mlaen i'r rhaglen...