Bob newid yn chenj....
Wel - 'na ni... y rhaglen Dodd Com gynta yn y bag! Ac ma' rhaid i fi gyfadde' o ni mor nerfys cyn y rhaglen neithiwr. Darlledu'n fyw ar y we, camerau yn y stiwdio, botymau gwahanol i'w gwasgu a thri gwr annoeth yn y stwidio - Meic, Gruff a Robin!! Ond ware teg - mi nath y tri ddal fy llaw wrth ini frasgamu i dir newydd y cyfrwng. (Wel nethon ni sgipio yn fwy na brasgamu a dweud y gwir... ).
Heno ar Dodd Com - Gruff yn rhoi ei farn ar y ffilm Due Date, Ysgol y Creuddyn yn dadle dros y ffilm Twilight, Ysgol Maes Garmon yn dewis y gerddoriaeth, a Meic fydd yn gofyn ichi ddewis eich hoff gân Cân i Gymru erioed.... Un gair - Glyndwwwwwwr..... chune!
Welwn ni chi - a welwch chi ni, am 7 dim ond ar bbc.co.uk/c2