Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Unnos - argraffiada Lisa G

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 22:45, Dydd Mawrth, 25 Ionawr 2011

A dyne fi 'di gorffen rhaglen hwyliog arall - diolch am eich cwmni!

Mae nos Fawrth yn dipyn o uchafbwynt yn fy wythnos i erbyn hyn, a hynny oherwydd bod Sesiwn Unnos yn digwydd o fy nghwmpas i. Dwi wrth fy modd bod yr adeilad yn fwrlwm o gerddorion a chynnwrf. Nid yn unig mae'n gyfle gwych i mi roi'r byd yn ei le efo bandie ac artistiaid (a Huw Evans!), ond dwi hefyd yn cael bod yn bry ar y wal, a chael busensa go iawn ar sut mae nhw'n gweithio fel grwp. Pawb yn mynd ati mewn ffordd unigryw, ac yn ymdopi efo'r straen a'r pwyse mewn ffyrdd gwahanol. A dwi'n ffeindio'r cyfan yn hynod o ddiddorol!

Yn amlwg, tydw i ddim yma dros nos, ac felly does gen i'm dealltwriaeth o'r boen na'r gwaith caled sy'n gorfod cael ei wneud pan mae'r corff jyst isio cysgu, ond mae gen i gymaint o barch at y cerddorion sy'n dod yma, yn gwneud eu gorau, ac yn creu tracie newydd gwych. Dwi'n deffro bore Mercher (ie, sori criw unnos, dwi'n cael cysgu!), ac yn mynd at ein gwefan i weld be oedd canlyniad y sesiwn, ac yn edrych mlaen at y rhaglen efo Huw nos fercher am ddeg. Mae o wir werth dilyn y cyfan ar bbc.co.uk/c2.

Gwilym Morus a Steffan Cravos sydd wrthi rwan, cyfuniad diddorol iawn, ac mae'r cerddorion ifanc sydd wrthi yn anhygoel. Pob lwc i bawb!

Gwychder! Mwynhau! Hir oes i'r Sesiyne Unnos! Lis x

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.