Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Unnos Steffan Cravos a Gwilym Morus

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Huw Evans Huw Evans | 21:16, Dydd Mawrth, 25 Ionawr 2011

Foneddigion a Boneddigesau, how do?

Wythnos arall, sesiwn Unnos arall.
Noson gyfa yn y Ö÷²¥´óÐã ym Mangor yn gwylio cerddorion yn syrthio'n ddarnau o flaen yn llygaid.

"CHWARA'R G MAJOR NA ETO! GO ON! DWI'N DARIO CHDI! DWI'N DYBL DARIO CHDI Y M!$%!*"£$^(&(^"(*£&$^(*R!!!!! "

I fod yn deg, yr unig berson sy'n bihafio felna yma 'di fi, pan ma'r cynhyrchwyr
yn llusgo fi ffwrdd o ngwaith pwysig yn edrych ar ebay am bethau dwi'm angen
a methu fforddio i fynd i gyfweld a cerddorion blinedig.

Wrth liw y cwch creadigol yr wythnos hon ma'r artist sydd yr un mor gyfforddus mewn
swimper wlanog o flaen tan efo gitar acwstic a par o finociwlars wrth law rhagofn
iddo weld aderyn prin trwy'r ffenest a mae o mewn clwb nos chwyslyd yn Nigeria
yn dawnsio'n wyllt efo'i 73 o wragedd, dwin son (wrth gwrs) am Mr Gwilym Morus.
Yn defnyddio rhwyfau awen i neud yn siwr bo nhw "wastad yn symyd 'mlaen" bydd y dyn
sy'n cael ei wylio gan Scotland Yard yn ystod unrhyw seremoniau brenhinol yng Nghymru,
y dyn nath neud MC'o yn iaith y nefoedd yn gredadwy, y dyn nath ddod a synau favela's
Brazil i donfeddu radio Cymru dan eu lysenw, Lembo, Mr Steffan Cravos.

2 beth dwi di ddysgu hyd yn hyn heno...

1. Ma Crav bellach efo gwallt melyn.
2. Ma Gwilym Morus bron yn gymaint o feglomaniac ag oedd James Brown.
Swn i'm yn synnu se hanner y Ö÷²¥´óÐã di cal y sack erbyn bore fory.

Wedi gweud hyn, da yw gweld cerddor yn dod yma yn gwbod yn union be ma nhw isho ac yn
gwbod yn union sut i gal y swn hwnnw. Rhyfedd bo' na neb di bod yma o'r blaen efo'r un
feddylfryd....

Ac un peth arall....

Ma'r synau sy'n dod o'r stiwdio yn swnio'n TIPTOP.

Tra bo Gwil yn mynnu bod nhw mond yn defnyddio cables gwyn yn y stwidio a ma
Crav yn lawrlwytho blueprints Westminster Abbey, well i fi fynd i guddio wrth y cynhyrchwyr....

www.ebay.com.... Posteri ffilm pwyleg prin ..... PRYNNU RWAN PRYNNU RWAN PRYNNU RWAN

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.