Newyddion Y Bandana
Mae Y Bandana yn mynd i fod yn brysur iawn o hyn tan Eisteddfod Wrecsam.
Bydd y band yn perfformio mewn nifer o wyliau yn ystod Mehefin a Gorffennaf gan gynnwys Gŵyl Cefni, Gŵyl Tân Tanat, Taran Tudweiliog, Y Sesiwn Fawr, Gŵyl y Gwachel, a Gŵyl y Ffin.
Mae'r band hefyd wedi trefnu taith o amgylch Cymru ac yn gobeithio cael amser dros yr haf i recordio caneuon newydd.
- 15 Gorffennaf - Sesiwn Fawr Dolgellau
- 16 Gorffennaf - Gŵyl y Gwachel, Pontardawe
- 17 Gorffennaf - 10 Feet Tall, Caerdydd
- 20 Gorffennaf - Clwb y Bont, Pontypridd
- 21 Gorffennaf - Tafarn Y Ship, Llangrannog
- 22 Gorffennaf - Tafarn Y Fic, Llithfaen
- 23 Gorffennaf - Gŵyl y Ffin