Sesiwn Unnos Gwyl Dewi
Dwi wastad wedi bod ychydig yn genfigenus o Huw Evans… Pam? Well, am ei fod yn gerddor gwych yn un peth, ond yn bennaf oherwydd mai fo sydd wedi cael cyflwyno cyfresi Sesiwn Unnos ar hyd y blynyddoedd!
Ond, mae Huw Evans yn yr Unol Daleithiau ar hyn o bryd, yn teithio hefo Cate le Bon, sy'n golygu mod i'n cael y fraint a'r anrhydedd o gyflwyno Sesiwn Unnos Gwyl Dewi 2012!
Dwi'n edrych ymlaen yn arw, achos mae Sesiwn Unnos wastad wedi bod yn un o fy hoff raglenni i, ac mae'n brosiect hynod o uchelgeisiol a chreadigol. Dwi 'mond yn gobeithio y bydda i'n gallu aros yn effro drwy'r nos!
Fe ges i'r pleser o gyhoeddi'r rhestr artistiaid ar y rhaglen neithiwr, a chael sgwrs hefo un o'r artistiaid, sef Georgia Ruth Williams. Yn ymuno a Georgia fydd Carwyn Ellis o Colorama, Eryl a Sion o Jen Jeniro, Euron Jôs o Cowbois Rhos Botwnnog, a bydd Ifan Dafydd hefo ni i wneud ail-gymysgiadau fydd yn adlewyrchu'r noson.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Dewch draw i wefan C2 am 9pm nos Fercher - bydd y cyfan yn cael ei we-lifo'n fyw tan 6am! Dwi'n gobeithio blogio yn ystod y nos, a bydda i (), y criw cynhyrchu @garethiwan @dylmei ac wrth gwrs yn trydar drwy'r nos tan y bore bach. Dwi'n edrych ymlaen at noson llawn creadigrwydd, cerddoriaeth… ond dim cwsg.
Hwyl am y tro
Lis
x