Neithiwr cafodd Dan sgwrs gyda Nia Edwards am rhai o'i hoff ffilmiau dychrynllyd...
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Helo!
Heno am 8 - Owain Reynolds ydy'r nesa yn y gadwyn coleg, ac mae o'n astudio yn China ar hyn o bryd. Ar ol naw fe fydd Rob Jones yn trafod gigs mae o'n eu trefnu yn Llundain.
A heno 'da ni'n trafod tatŵs! Sgynnoch chi rai? Os felly be ydy'ch ffefryn chi? Ac os nad oes gynnoch chi un - be hoffech chi ei gael?!
Y cogydd Bryn Williams oedd gwestai Ifan Evans neithiwr, ac fe sgwrsiodd y ddau am bwysigrwydd cynhwysion Cymreig.
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Helo!
Ar y rhaglen heno am 8 - Gronw Roberts fydd yn dewis 'Caneuon i...' a Griff Lynch fydd yn trafod Newyddion y Sin ar ol naw o'r gloch.
Albym yr wythnos ydi albym newydd Cicatas, ac fe fydd Wil o Ysgol Bro Morgannwg yn dewis can gwaith cartref.
Byddwch yn ffrind i C2 ar Youtube i weld ein fideos diweddaraf, gan gynnwys sgwrs Dafydd James a Stifyn Parri o raglen nos Fercher dwethaf!
Y cerddor a cyfarwyddwr Delwyn Sion oedd gwestai Daniel Glyn neithiwr, dyma glip o'r ddau yn trafod dyddiau cynar ei yrfa...
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Daeth Gareth Bonnello a'i gitar i'r stiwdio Wener a pherfformio dwy gan newydd yn fyw ar raglen Huw Evans!
Treuliodd Gareth gyfnod yn China yn ddiweddar a mae'r ddwy gan yma yn ymateb i'r profiadau gafodd yno. Y bwriad yw recordio albym llawn yn fuan ond mwynhewch y ddau drac hyfryd yma yn y cyfamser!
Ìý
Ìý
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Ìý
Ìý
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Glyn Wise a Magi Dodd yn ymweld a chanolfan Dwr Gwyn Rhynglwadol Caerdydd fel rhan o ymgyrch Glyndain 2012!
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Llongyfarchiadau mawr i'r pedwar band sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru eleni - sef NEBULA, FAST FUSE, SGIDIE GLAS a TYMBAL!
Pob hwyl iddyn nhw wrth fynd ati i recordio'u caneuon mewn stiwdio, a gewch chi glywed y rownd derfynol am 8pm - Ebrill 18fed. Edrych ymlaen!
Helo! Mae 'na bedwar band yn cystadlu eto heno am le yn Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru ac C2 Radio Cymru - sef SGIDIE GLAS, TYMBAL, MATCH HOUSE a YR AYES.
Mae nhw angen eich pleidlais chi ac fe gewch chi'r rhifau perthnasol drwy wrando ar Raglen Daniel Glyn. Fe fydd y llinellau yn cau am 11.30, a gewch chi glywed pa ddau fand fydd yn mynd drwodd i'r rownd derfynol ar Ebrill 18fed ar ol hanner nos heno!
Mae NEBULA a FAST FUSE eisoes wedi cyrraedd y rownd derfynol.
Helo!
Llongyfarchiadau mawr i Nebula a Fast Fuse ar gyrraedd Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau C2 / Mentrau Iaith Cymru!
Fe fydd y frwydr yn parhau nos fory ... pan fydd Sgidie Glas, Tymbal, Match House a Yr Ayes yn cystadlu am y ddau le arall yn y rownd derfynol.
Heno ar raglen Lisa Gwilym am 8 - Richard Griffiths o The Afternoons fydd yn dewis Caneuon i.... a Ceri Phillips fydd yn trafod Newyddion y Sin.
Band newydd o ardal Bangor sy'n cystadlu ym Mrwydr y Bandiau C2/ Mentrau Iaith Cymru 2012!
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Band newydd sbon o ardal Dinbych sy'n cystadlu ym Mrwydr y Bandiau C2/ Mentrau Iaith Cymru 2012!
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Proffil y band Tymbal ar gyfer Brwydr y Bandiau C2 2012.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Gwefan Brwydr y Bandiau 2012
Helo!
Griff Lynch fydd yma rhwng 8 a 10 heno.
Mi fydd o yn dewis y gerddoriaeth orau, ac yn cael gair hefo Sion Eirug sydd ym Mhrifysgol Metropolian Manceinion, ac ar ol naw - Efa Dafydd a Fflur Elin ydy'r ddwy gyntaf i wynebu her Chwech y Chweched.
Neithiwr ar raglen Lisa Gwilym, Greta Isaac oedd yn dewis "Caneuon I". Dyma Greta yn trafod natur ei cherddoriaeth gyda Lisa.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Proffil y band Sgidie Glas ar gyfer Brwydr y Bandiau C2 2012.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Gwefan Brwydr y Bandiau 2012
Helo!
Heno am 8 - gan ein bod ni ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol y Merched - fe fydd hi'n rhaglen fenywaidd iawn heno - o ran y gerddoriaeth a'r cyfranwyr!
Greta Isaac fydd yn dewis 'Caneuon i...' a Bethan Lloyd fydd yn trafod Newyddion Sin , a heno - da ni isio gwybod pwy ydi'r ferch bwysicaf yn eich bywyd chi?!
Huw Stephens yn cyfweld Mike Williams, dirprwy olygydd yr NME ar ei sioe nos Lun 05/03/2012.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Proffil y bandÌýNebula ar gyfer Brwydr y Bandiau C2 2012.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Gwefan Brwydr y Bandiau 2012
Proffil y band Llygredd Swn ar gyfer Brwydr y Bandiau C2 2012.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Gwefan Brwydr y Bandiau 2012
Proffil Fast Fuse ar gyfer Brwydr y Bandiau C2 2012.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Gwefan Brwydr y Bandiau 2012
Heno fe chwaraeodd Huw Evans sesiwn C2 newydd Sen Segur, dyma'r caneuon
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Ìý
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Ìý
Ìý
Ìý
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Bore da! (nos da!)
Well, da ni bellach yn yr adeilad ers tua 18 awr, ac wei hitio "snag" bach technegol. Da ni'n cael trafferth rhoi caneuon y sesiwn ar wefan C2 ar hyn o bryd, on roeddwn i'n awyddus i rai o'r tracie fod ar gael yn syth, felly dyma linc i ddau drac gwbl hyfryd. Mi fydd y fideos, lluniau a'r EP gyfa ar wefan C2 yn fuan iawn iawn
Nos da bawb
Gareth, Dwynwen, Lisa a gweddill criw Sesiwn Unnos
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit Ö÷²¥´óÐã Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Darllen gweddill y cofnod
Heno am 8 - sgwrs hefo Ifan Dafydd - un o griw y Sesiwn Unnos, a gan mai'r Candelas ydi'r band ar raglen Y LLE ar S4C heno am 6.30, fe fydd Osian o'r Candelas yn datgelu hanes y band ar ol naw ac mi fyddwn ni yn chwarae dwy gan newydd ganddyn nhw hefyd!!
A gan ei bod hi'n Ddydd Gwyl Dewi, a gan mai un o frawddegau enwocaf Dewi Sant ydi 'Gwnewch y pethau bychain' da ni isio gwybod be ydi'r peth bach arbennig 'dach chi am ei wneud / wedi ei wneud heddiw??
I 6 cerddor dewr, mi oedd dod yma heno ar noson naid i recordio Sesiwn Unnos Gwyl Dewi yn mynd i fod yn sialens a hanner. Roedd 'ne daith gerddorol anferth o'u blaene, a siwrne greadigol ac emosiynol yn wynebu pob un ohonyn nhw. Tydi 12 awr ddim yn amser hir o gwbwl i grwp gyfansoddi, recordio a rhyddhau EP, heb son am orfod neud hynny efo artistiaid nad oedden nhw'n eu hadnabod o gwbwl. Ond efo'u gilydd, fe lwyddon nhw i asio'n gerddorol, a chreu rhywbeth go ryfeddol.
Mae bod yn eu cwmni dros nos wedi bod yn brofiad sy'n annodd iawn crynhoi mewn geirie. Swreal un funud, hudolus y nesa. Ond mae'n deg deud 'mod i wedi fy nghyffwrdd gan y cyfan. A fel rhywun sy'n caru cerddoriaeth, mae fy mharch tuag atyn nhw fel cerddorion yn aruthrol, ac mi all pob un ohonyn nhw ar ddiwedd noson hir a chyffrous iawn o recordio ymfalchio gymaint yn eu gwaith.
Felly diolch o waelod calon i Carwyn Elis, Georgia Ruth Williams, Eryl Jones, Sion Richards, Euron Jones a Luca Gwernieri am fod mor angerddol, ysbrydoledig a brwdfrydig. Mae hi wedi bod yn bleser pur cael bod yn ran o'r cyfan, a gobeithio bod chi hefyd wedi mwynhau. Felly gen i a chriw Sesiwn Unnos Gwyl Dewi 2012, mae'r gwely yn galw, nos da!
Os da chi'n hoffi Ifan Dafydd mi fyddwch yn hoffi:
Os da chi'n hoffi Jen Jeniro mi fyddwch yn hoffi
Os da chi'n hoffi Colorama mi fyddwch yn hoffi:
Os da chi'n hoffi Georgia Ruth Williams mi fyddwch y hoffi: .
Dyl Mei
Diweddariad! 9 awr wedi mynd, a 3 awr arall i fynd... Dechre blino, ond yn mwynhau pob eiliad o'r siwrne greadigol anhygoel a elwir yn Sesiwn Unnos!
Tair can wedi eu recordio, ac mae nhw wrthi'n gweithio ar y nesa rwan. Pethe'n mynd yn anghredadwy o sydyn, esmwyth a da i Georgia, Sion, Eryl, Jos, Carwyn a Luca.
Rhywun arall angen coffi?! Lis