Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Cerddoriaeth 2013

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 12:42, Dydd Mercher, 2 Ionawr 2013

Helo a blwyddyn newydd dda!

Dwi'n edrych 'mlaen at flwyddyn arall o gyflwyno cerddoriaeth newydd o bob math ar C2. Ond ar ddechre 2013, mae'r sefyllfa rhwng y Ö÷²¥´óÐã ac EOS am olygu newidiadau i'r rhaglen. Ar hyn o bryd, fydd C2 ddim ond ymlaen am awr bob nos, a fydda i ddim yn gallu chware popeth fyddwn i'n ei wneud fel arfer.

Yn amlwg, mi ydw i a gweddill y criw yn gobeithio y bydd ne gytundeb teg yn dod yn fuan, ac y cawn ni barhau i roi llwyfan i'r holl gerddorion talentog 'da ni'n mwynhau cyd-weithio hefo nhw. Yn y cyfamser, mi ydw i a'r criw am wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau fod y gynulleidfa'n cael gwasanaeth mor gyflawn ac y gallwn ni, a bod yr artistiaid sydd wrthi'n cyfansoddi, recordio a rhyddhau ar hyn o bryd yn cael cymaint o sylw ac sy'n bosib o dan yr amgylchiadau, a'r cyfyngiadau.

Felly, mi fydda i'n blogio yn ystod y cyfnod, yn dod a newyddion o'r sîn, ac yn rhannu lincs i wefannau cerddorion, deunydd newydd, gigs ayyb. Yn y blog nesa, dwi'n gobeithio son rhywfaint am albym Siddi, ac EP Sensegur.

Dwi nol ar C2 nos fercher am 7. Blwyddyn newydd dda!

Lis
x

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.