Siddi - Un Tro
Helo!
Dwi'n ofnadwy o falch fod 2013 yn dechrau hefo albym dwi di bod yn edrych ymlaen ati ers dipyn - albym Siddi - "Un Tro". Falle fod yr enw yn un newydd i ambell un, ond mi fyddwch chi'n sicr yn adnabod y lleisiau ar yr albym achos Siddi ydy prosiect Branwen o Cowbois Rhos Botwnnog a'i brawd Osian, sy'n aelod o'r Candelas.
Fe ges i "demo" hyfryd o un o ganeuon Siddi gan Branwen 'nol ym mis Mawrth 2012, a'i gwahodd nhw i wneud sesiwn acwstic yn Ö÷²¥´óÐã Bangor. Yn anffodus, oherwydd prysurdeb Branwen ac Osian hefo Cowbois, Candelas a phob math o bethe eraill, roedd hi'n fis Mehefin erbyn iddyn nhw ddod ata ni - ond mi oedd o'n sesiwn cofiadwy iawn. Mae symlrwydd y caneuon, a llais anhygoel Branwen yn rhoi ias i mi pob tro, ac mi oedd y profiad o wrando ar y caneuon yn fyw yn wefreiddiol.
Mae'r albym yn rhoi'r un profiad iasol - ond ma na ambell i beth eitha gwahanol yno hefyd... Mi fydd yr albym allan ar Ionawr 14eg ar label i-ka-ching, ac yn garedig iawn mae'r label wedi rhoi trac i'w lawrlwytho . Mae'r gwaith celf hefyd i'w weld yno - gan yr artist
Felly pob lwc i Siddi hefo'r albym newydd!
Lis
x