Ö÷²¥´óÐã

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sen Segur - Sudd Sudd Sudd

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Lisa Gwilym Lisa Gwilym | 08:51, Dydd Llun, 7 Ionawr 2013

Haia!
Yn syth ar ol i ni dderbyn albym gynta Siddi, mae ail CD gan label i-ka-ching wedi glanio ar fy nesg. Y tro yma, EP sydd wedi cyrraedd - "Sudd Sudd Sudd". Mae'r EP wedi ei recordio gan Mr Huw, a'i ol-gynhyrchu gan Iwan "Recall" Morgan", ac mi fydd allan ar Ionawr 21ain.

Un o'r pethe cynhara' i Sen Segur wneud fel band oedd recordio sesiwn byw i'r rhaglen 'nol yn 2010. Er fod y band yn ifanc iawn, a'r sesiwn yn recordiad byw, eitha amrwd, mi oedd hi'n amlwg o'r cychwyn cyntaf eu bod nhw'n fand talentog iawn, llawn syniadau, a chaneuon bachog.

Ers hynny, dwi wedi gweld y band lot fawr o weithie'n fyw, a thrwy gigio'n hynod gyson a chyd-weithio hefo cynhyrchwyr fel a , mae swn y band wedi datblygu, ac ma nhw erbyn hyn yn fand byw gwych, hefo arddull unigryw. Mi oedd yr EP gynta Pen Rhydd, ddaeth allan yn 2011, yn anhygoel, a'r sengl Sarah/Nofa Scosia yn bop seicadelic perffaith!

Felly, dwi'n edrych ymlaen at fedru chwarae'r traciau ar y rhaglen yn fuan gobeithio, ac yn y cyfamser, dyma rywfaint mwy o wybodaeth am yr EP gan y band.
Hwyl
Lis
X

Sen Segur
Sudd Sudd Sudd
Traciau:

Hei Bacym Do!
Lemoned Cymylog
Nofio Trybelydrol
Sentriffiwgal
8onglog

Gigs
19.01.13 Clwb Ifor Bach, Caerdydd/Cardiff
26.01.13 Caffi Siabod, Capel Curig
02.02.2013 Caerfyrddin/Carmarthen
05.02.2013 Bala
08.02.2013 Y Llangollen, Bethesda
09.03.2012 Ar y Rels, Bangor


Rhyddheir Sudd Sudd Sudd ar ffurf CD ac yn ddigidol i'w lawrlwytho o itunes, amazon, spotify ayyb o'r 21ain o Ionawr 2013 ymlaen. Bydd Sen Segur yn gigio'n brysur i hyrwyddo'r ep yn y flwyddyn newydd, a bydd yr ep ar gael i'w prynu yn y gigs, yn ogystal ag yn y siopau canlynol: ; Bys a Bawd (Llanrwst); Andy's Records (Aberystwyth); Spillers Records (Caerdydd); The Parrot (Caerfyrddin) ; Awen Meirion (Bala), Llen Llyn (Pwllheli), Palas Print (Caernarfon) a gwefan www.sadwrn.com.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.