Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Bron a marw eisiau gwybod . . .

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 16:25, Dydd Mercher, 30 Mehefin 2010

Yr ydw i bron a marw eisiau gwybod pwy fydd yn ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn heno. Ond bydd yn rhaid disgwyl tan hanner awr wedi chwech.

Y llyfr can lle i'w gweld cyn marw sy'n peri'r diddordeb mwyaf eleni - achos fel y dwedais i rai wythnosau yn ôl dim ond John Davies, y sgrifennwr, sy'n cael ei ystyried yn 'awdur' y gyfrol gan yr Academi er mor anhepgor i'w llwyddiant yw lluniau rhagorol Marian Delyth.

Ac i raddau aeth y miri yn firi mwy y pnawn yma wrth i Meic Stephens, cyn swyddog llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, awgrymu ar Taro'r Post y dylai John Davies pe byddai'n ennill, rannu'r wobr o £10,000 efo'r ffotograffydd, mor allweddol ei chyfraniad hi i lwyddiant y gyfrol.

Dyna ichi awgrym i'w gwneud i un a fu ymhlith y Cardis gyhyd - ond yn un yr ydw i gant y cant tu ôl iddo!

Ond rwy'n rhyw amau bod John Davies yn siŵr o fod wedi meddwl am hynny beth bynnag ac y byddai'n gwneud y peth anrhydeddus heb ei gymell gan Mr Stephens a minnau.

Un peth sy'n sicr, mae mwy o gyffro yn y disgwyl nag yn unrhyw un o'r deg llyfr ar y rhestr hir a ddewiswyd a'r stwna a'r dyfalu yn gymaint o nofel a'r un sydd ar y rhestr fer gyda Marian Delyth ei hun, yn ôl Taro'r Post, wedi mynegi ei hanfodlonrwydd gyda'r drefn.

Sut cafodd yr Academi ei hun i'r fath straffig mae'n hawdd gweld achos mae'n amlwg mai chwilio am Awdur y flwyddyn mae hi nid Llyfr y flwyddyn ac i'r gystadleuaeth gael ei chamenwi o'r cychwyn cyntaf un.

Llyfr ydi popeth rhwng y ddau glawr - gan gynnwys y lluniau ysblennydd yn yur achos hwn.

Ond dim ond dyn y beiro mae'r Academi eisiau ei anrhydeddu.

Dylid felly fod wedi newid enw'r gystadleuaeth flynyddoedd yn ôl.

Rhaid imi ddweud nad oeddwn i'n meddwl rhyw lawer o restr o ddeg y tri beirniad pan welais i hi gyntaf. Ond diawch, mae hon y rhestr gyda'r ddifyrraf ers blynyddoedd lawer. Go dda nhw. Mi all hyn oll fod gystal a Saeson yn siarad am ffwtbol y dwthwn hwn.

Dim ond gobeithio na fydd neb yn tagu ar y bwyd drud na yng Nghaerdydd heno . . .

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.