Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Llyfrau'r Wladfa

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 09:19, Dydd Llun, 22 Tachwedd 2010

Bydd y rhai sy'n ymddiddori yn y Wladfa ym Mhatagonia yn cael mwy na'u digoni y Nadolig hwn gyda thri llyfr newydd yn y siopau.

Y crandiaf a'r mwyaf trawiadol, heb amheuaeth, yw'r gyfrol ddwyieithog, Patagonia, Crossing the Plain / Croesi'r Paith (Gomer £19.99)

Clawr llyfr Matthew Rhys

Taith mis a ddangoswyd yn barod ar y teledu ar gefn ceffyl o'r ardal Gymraeg wreiddiol yn 'Y Dyffryn' tua llechweddau'r Andes ac Esquel a Threvelin.

Y bwriad oedd ail-greu menter y gwladfawyr cynnar ac yn gwmni i Matthew Rhys yr oedd disgynyddion y 30 o wladfawyr hynny a wynebodd beryglon a garwedd y paith 125 o flynyddoedd yn ôl.

Os oedd taith yr actor yn un anghyfforddus yr oedd ei hun hwy yn enbydys ac arwrol a'r hanes yn cael ei adrodd yn llyfr rhagorol Elvey MacDonald, Yr Hirdaith, a gyhoeddwyd ddeng mlynedd yn ôl bellach.

Mae llyfr Matthew Rhys yn fwy o lyfr lluniau nag o lyfr hanes - a lluniau trawiadol ydyn nhw hefyd o Gauchos Cymreig lledrog.

Crynodeb poblogaidd o hanes y Wladfa ydi Stori'r Wladfa gan Mari Emlyn (Gomer unwaith eto, £5.99)
.
Yn lliwgar ac yn llawn lluniau mae'r llyfryn yn "cynnig braslun o hanes y Wladfa o gyfnod ei sefydlu hyd heddiw" ac "yn cynnwys cipolwg difyr ar wreiddiau'r ymsefydlwyr cyntaf o Gymru" a'u "dylanwad ar ddatblygiad Patagonia".

Mae teitlau'r gwahanol benodau yn rhoi awgrym o hyn sydd ar gael, Hunllef y dyddiau cynnar, Llongau'r WladfaMerched y Wladfa, Llofruddiaethau, Addysg, Crefydd, Llenyddiaeth, Cerddoriaeth a hyd yn oed 'ffilm a theledu am y Wladfa' yn awr bod y lle yn y ffasiwn unwaith eto.

Mae Mari Emlyn yn un sy'n dod yn un o gymwynaswyr mawr lledaenu hanes Y Wladfa. Y llynedd cyhoeddwyd ei chasgliad helaeth o ddyfyniadau o lythyrau yn ymwneud â'r Wladfa a sgrifennwyd rhwng 1865 a1945 a llyfr arall ganddi hi sy'n cwblhau'r triawd o lyfrau eleni, Llythyrau'r Wladfa 1945 - 2010 (Gwasg Carreg Gwalch £9.95).

Fel y casgliad cyntaf mae'n cynnwys llythyrau a welodd olau dydd yn barod mewn hen gylchgronau a newyddiaduron a hefyd lythyrau personol rhwng unigolion.

Heb amheuaeth mae hon a'i rhagflaenydd gyda'r difyrraf a chydag eglurhad cefndirol gan Mari Emlyn yn agoriad llygad i'r fenter ryfeddol hon yr ail ddeffrowyd ein diddordeb ynddi dros y blynyddoedd diwethaf.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.