Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Nhw eu hunain

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:29, Dydd Iau, 25 Tachwedd 2010

Mae'n fy rhyfeddu i bob blwyddyn gymaint o bobl sy'n meddwl ein bod ni eisiau gwybod mwy amdanyn nhw.

Ac mae eleni eto yn flwyddyn gynhyrchiol i'r rhai hynny sy'n credu mewn hunangofiannau.

Dyma ddyrnaid o'r rhai gyhoeddwyd yn benodol ar gyfer marchnad y Nadolig:

  • Bydoedd - atgofion ychydig yn wahanol Ned Thomas am y gwahanol wledydd y mae wedi byw ynddyn nhw. Lolfa.
  • Fy Ffordd fy Hun - yr hunangofiant gyda'r stori orau o bosib yn cychwyn yn Slofenia, yr hen Iwgoslafia cyn symud i Gwm Cynon. Gwas Carreg Gwalch.

  • O Lwyfan i Lwyfan - atgofion diddanwr a gwleidydd leol, Peter Hughes Griffiths. Lolfa.

  • Yn Erbyn y Ffactore - llwyddiant merch ym myd chwaraeon gan Non Evans. Lolfa.

  • Hel Tai - atgofion y gweinidog a'r ymgeisydd seneddol a ddyrchafwyd i DÅ·'r Arglwyddi, Roger Roberts. Bwthyn.

  • Annette - hunangofiant y gyfeilyddes Annette Bryn Parri.

Ychwanegwch at y rhain gyfrolau sy'n sôn am brofiadau neu ddigwyddiad personol:

  • Ar Fôr Tymhestlog - camp ryfeddol Elin Haf yn rhwyfo yn gyntaf ar draws yr Iwerydd, wedyn Môr India heb sôn am redeg marathonau yn y Sahara. Carreg Gwalch.
  • Yn ôl i Gbara - Bethan Gwanas yn dychwelyd i ysgol lle bu'n dysgu yn Affrica bum mlynedd ar hugain yn ôl.

  • Ac nac anghofiwn gofiant sy'n hunangofiant Hywel Gwynfryn i'r actor o Fôn, Hugh Griffith.

  • Ac ar y ffordd hefyd mae cyfrol Alan Llwyd, Stori Waldo - Bardd Heddwch, am Waldo Williams bardd sydd wedi ei enwi yn 'hoff fardd' cymaint o bobl.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.