Ö÷²¥´óÐã

Archifau Ionawr 2011

Dewi Llwyd a Gareth Davies

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 12:05, Dydd Llun, 31 Ionawr 2011

Sylwadau (0)

Yn un o ser tim rygbi Cymru yn yr 80au mae Gareth Davies bellach yn gweithio yn y byd addysg yn Leeds.

Gareth Davies

Yn yr ysgol, yn ogystal a disgleirio ar y maes rygbi roedd yn chwaraewr criced i ysgolion Cymru a bu'r holl chwaraeon yn gynnen rhyngddo a'i dad oedd am ei weld yn canolbwyntio ar ei addysg.

Wrth gymharu'r gem Rygbi yn ei gyfnod ef a heddiw, mae'n teimlo ei fod wedi cael y pleser o chwarae yn yr oes euraidd.

Tra fod pob cyfle posib i chwaraewr gyrraedd ei lwyr botensial heddiw, mae'n teimlo na allai o ymarfer a thrafod rygbi bob dydd!

Wedi gwneud nifer o swyddi amrywiol, gan gynnwys pennaeth chwareon Ö÷²¥´óÐã, Cadeirydd Swyddfa Post, Prif weithredwr Clwb Rygbi Caerdydd, Cad Cyngor Chwaraeon Cymru, comisiynydd chwaraeon i S4C, gwaith i'r Cynulliad yn Awstralia, mae bellach yn un o benaethiaid Prifysgol Metropolitan Leeds.

Wrth edrych ymlaen at gem gyntaf Cymru yn erbyn Lloegr ym mhencampwriaeth y 6 Gwlad mae'n pwysleiso fod ennill y gem hon yn dyngedfennol.

Y Celfyddydau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 12:30, Dydd Sul, 30 Ionawr 2011

Sylwadau (0)

Sioned Webb yn cofio'r Fonesig Margaret Price, adolygu cyngerdd gan Gerddorfa Siambr Ewropeaidd yn ogystal a sôn am ddigwyddiadau'r wythnos.

Prisiau tocynau trên yn codi

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 11:09, Dydd Llun, 24 Ionawr 2011

Sylwadau (0)

Gyda prisiau tocynau trên yn codi mis yma, Manylu sy'n gofyn os ydi pobl yng Nghymru yn cael gwerth eu harian?

Yn y rhaglen cawn glywed gan deithwyr o Fangor, Caerdydd ac Aberystwyth.

Un o'r rhain ydi Dafydd Jones o Gaernarfon. Mae'n dweud y bydd yn meddwl ddwy waith cyn defnyddio'r trên eto ar ôl iddo gael ei siomi gyda'r gwasnaeth. Mi ysgrifenodd lythyr o gwyn at y Gweinidog trafnidiaeth Ieuan Wyn Jones ac at brif weithredwr cwmni trenau Arriva Cymru.

"Ar ddiwedd y dydd yr unig beth dwi isio ydi cyraedd o A i B ac os oes na rhywbeth yn mynd i ddod ar draws hynny, tydi'r cwsmer ddim yn mynd i licio fo."

Yn ôl teithwyr eraill yn y rhaglen, mae angen gwella ar gyflwr cerbydau trenau Arriva Cymru, gan bod gwahaniaeth safon yn amlwg pan yn cymharu gyda rhai o drenau yn Lloegr. Mae'r aelod cynulliad dros Ogledd Cymru Eleanor Burnham yn defnyddio y tren bob wythnos, ac yn dweud bod rhaid i bethau newid.

"Mae na bethau sylfaenol gwael weithiau... Yn y pen draw dwi ddim yn credu bod na ddigon o fonitro a cael gwerth am arian am yr arian swmpus ma sy'n cael ei roi yn y trenau."

Ond mae trenau Arriva Cymru yn mynnu eu bod yn buddsoddi yn y gwasanaeth, ac yn bwriadu adnewyddu sawl fflyd.

Ond beth yw'r ateb yn y tymor hir?

MANYLU - Lun Ionawr 24ain, toc wedi chwech.

Dewi Llwyd a J O Roberts

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 14:57, Dydd Sul, 16 Ionawr 2011

Sylwadau (0)

Ar drothwy ei benblwydd yn 79 oed J O Roberts sy'n edrych yn ol ar ddigwyddiau a dyddiadau pwysig yn ystod ei fywyd.

O'i blentyndod yn y 30au yn Lerpwl i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf i wneud dewis anodd pan gynigwyd tair swydd iddo mewn un wythnos ym 1968.

Wedi blynyddoedd anodd ar ddechrau'r ddegawd hon, ei anrheg penblwydd delfrydol fyddai iechyd i gael parhau i fwynhau cymdeithasu, canu gyda'r cor a chwarae golff!

Y Celfyddydau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 12:24, Dydd Sul, 16 Ionawr 2011

Sylwadau (0)


Adolygiad Catrin Beard o lyfr Bro a Bywyd T Llew Jones ac arddangosfa Dyma Aber 86 gan Keith Morris.

Dewi Llwyd a Tara Bethan

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 15:38, Dydd Sul, 9 Ionawr 2011

Sylwadau (0)

Cyfnod prysur o waith oedd y Nadolig i'r gantores a'r actores ifanc o Lansannan, Tara Bethan. Fel mae wedi gwneud o'r blaen roedd yn chwarae un o'r prif rannau mewn pantomeim yn Theatr y Rhyl. Ond er ei bod wedi mwynhau Peter Pan yn aruthrol roedd yn cydnabod hefyd fod hedfan uwchben y gynulleidfa mewn harnais amryw o weithiau bob dydd yn brawf ar ei stamina a'i stumog!

Tara Bethan

Yn ferch i'r reslwr Orig Williams, fe ddechreuodd Tara gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn bum mlwydd oed gan brofi'n fuan iawn ei bod yn gallu dawnsio yn ogystal a chanu a llefaru. Erbyn heddiw mae'n priodoli cryn dipyn o'i llwyddiant i'r profiad gwerthfawr a gafodd wrth gystadlu.

Ar ôl graddio o Goleg Ivor Novello yn Llundain, Redroofs Theatre School, cyrhaeddodd y deuddeg ymgeisydd olaf yn y rhaglen deledu 'I'd Do Anything' cyn mynd yn ei blaen i deithio ar hyd a lled Prydain gyda'r sioe gerdd Joseff.

Fel un sydd hefyd yn cyflwyno'n gyson ar S4C, mae Tara bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Yn ei sgwrs a Dewi awgrymodd mai agwedd feriniadol rhai Cymry Cymraeg tuag at y Saeson a'r Saesneg oedd yn ei gwylltio fwyaf.

Dewi Llwyd a Bill Hughes

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:40, Dydd Sul, 9 Ionawr 2011

Sylwadau (0)

Am gyfnod fel un o gynghorwyr Abertawe roedd Bill Hughes yn un o Gymry Cymraeg amlyca'r blaid geidwadol. Ond cyn mentro i'r byd gwleidyddol, roedd yn wr busnes hynod lwyddiannus.

Bill Hughes

Wrth ei alwedigaeth roedd yn athro ymarfer corff, ond gyda'i wraig fe agorodd siop bapur newydd yn gyntaf, cyn dod yn berchen ar fwytai a chlybiau nos yn y ddinas.

Erbyn hyn mae'n byw yn Ynysforgan, ond mae ei wreiddiau yng Ngheredigion. Cafodd ei fagu ar aelwyd grefyddol ym Mhonrhydfendigaid, ond bellach ac yntau dros ei bedwar ugain oed, dydy Bill ddim yn ystyried ei hun yn gapelwr mawr. Ond mae'n gresynu nad ydi'r enwadau wedi llwyddo i glosio'n fwy at ei gilydd.

Mae'n cyfrif rhai o geidwadwyr blaenllaw y degawdau diwethaf ymhlith ei gyfeillion, Syr Keith Joseph a William Hague yn eu plith nhw.

Mae newydd ymweld a Phatagonia am y tro cyntaf, ac mae'n mwynhau bod yn aelod o'r pwyllgor sy'n codi arian i ddathlu 150 mlynedd ers i'r Wladfa gael ei sefydlu.

Fel cyn athro ymarfer corff (ar un adeg yn Llundain bu'n dysgu Bobby Moore) mae'n dal yn hoff o chwaraeon, ond does dim yn ei wylltio mwy na gweld aelodau o dimau rygbi a phel-droed Cymru'n methu canu'r anthem genedlaethol.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.