Ffrae Harddwch Bryniau Clwyd
Mae'n ddiwrnod tyngedfenol i Ddyffryn Llangollen, Dyffryn Dyfrdwy a rhan ddeheuol Bryniau Clwyd wrth i Gyngor Cefn Gwlad Cymru gyfarfod i benderfynu a ydyn nhw'n awyddus iddyn nhw gael statws swyddogol i warchod eu harddwch. Mae rhannau o Sir Ddinbych a Fflint yn perthyn i Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd yn barod. Drwy berthyn iddo, dywed swyddogion y cynllun ei bod yn haws denu arian, ar ffurf grantiau i'r cylch. Un cynllun lleol'n cael ei ariannu gan y Loteri ydi Cynllun y Grug a'r Caerau, sy'n cynnal a chadw cynefinoedd ac olion hanesyddol Bryniau Clwyd. Yn ol y cadeirydd, Rod Williams, mae'r gwaith maen nhw wedi ei wneud yn gwella llwybrau a meysydd parcio ar y bryniau wedi denu nifer mwy o ymwelwyr i'r ardal.
Gobaith rhai o bobol Dyffrynnoedd Llangollen a Dyfrdwy yw y byddai ymestyn ffiniau'r ardal harddwch yn eu helpu hwythau i farchnata'r cylch ac i ddenu twristiaid. Mae angen gwaith yn yr ardal, meddai'r cynghorydd Huw Jones o Gorwen, gan fod ffatri fu'n cyflogi rhyw gant o bobol yno wedi cau yn ddiweddar.
Ond mae eraill yn ffyrnig yn erbyn y cynllun. Pryder rhai o ffermwyr y cylch yw y byddai Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn gorfodi haen o fiwrocratiaeth a chostau ychwanegol arnyn nhw.
"Mae yn ardal o harddwch arbennig," meddai Eifion Davies sy'n ffermio ger Pont Fadog yn Nyffryn Ceiriog. "Ond dydi o ddim yn naturiol. Y ffermwyr sydd wedi ei wneud o... Rhedig busnes ydan ni. A dydyn ni ddim isho 'chwaneg o bobol i ddweud wrthym ni be i'w wneud. Dwi ddim yn gweld dim pwrpas i ddod ag Ardal o Harddwch i mewn. Y cwbwl mae'n wneud ydi rhoi gwaith i chydig o ddynion - achosi lot mwy o drafferth i ni."