Cyfweliad Angharad Mair
Mae'r gyflwynwraig deledu Angharad Mair yn edrych ymlaen at ddegwad newydd ar drothwy ei phenblwydd yn 50 oed. Fel un sydd wedi cael cyfleon newydd gyda phob degawd - yn eu 20au yn gyflwynwraig deledu yn cyflwyno Newyddion ac yna'r rhaglen Heno.
Heb redeg o gwbl cyn ei phenblwydd yn 30 oed erbyn ei bod yn 37 oed roedd yn athletwraig uchel ei pharch yn cynrychioli Prydain ym mhencampwriaethau'r byd.
Yn ei 40au rhoi'r gorau i redeg, a chael cyfrifoldebau gwahanol fel mam a gwraig fusnes.
Dyma'r cyfnod hefyd y daeth yn golofnwraig wythnosol i'r Wales on Sunday ac yna i gylchgrawn Golwg ac y bu iddi ystyried sefyll fel ymgeisydd Seneddol.
Ei hanrheg pen-blwydd delfrydol fyddai gweld sicrhau annibyniaeth i S4C.