Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Buddugoliaeth yr SNP - be nesa?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 17:05, Dydd Llun, 13 Mehefin 2011

Ar Fai y pumed, mi enillodd plaid genedlaethol yr Alban, yr SNP, fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad ar gyfer senedd y wlad. Nhw ydi'r blaid gyntaf erioed i ennill mwyafrif yn Holyrood. Ar Manylu heno, mae rhai o Gymry'r Alban yn trafod llwyddiant y blaid gydag Alwen Williams.

Mae y rhan fwya yn sicr bod personoliaeth gref yr arweinydd, Alex Salmond, a pherfformiad y blaid yn ystod eu cyfnod mewn llywodraeth leiafrifol wedi cyfrannu at hynny. Ond maen nhw'n dweud bod yr SNP hefyd wedi llwyddo ifanteisio ar y ffaith bod y pleidiau eraill mewn sefyllfa gymharol wan, gyda Llafur wedi cael ymgyrch etholiadol wael, a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn talu'r pris yng ngolwg nifer o Albanwyr, am fentro i glymblaid gyda'r Toriaid yn San Steffan.

A hwythau wedi ennill 69 o'r 129 o seddi yn Senedd yr Alban, does dim nawr i rwystro'r SNP rhag gweithredu rhai o'r addewidion na wnaethon nhw eu cyflawni yn ystod eu cyfnod mewn llywodraeth leiafrifol, am eu bod wedi methu cael cefnogaeth pleidiau eraill ar eu cyfer. Y mwyaf dadleuol ohonyn nhw yw refferendwm ar gyfer annibyniaeth i'r Alban. Ond maen nhw'n gwybod nad mater hawdd fydd cael pleidlais "ie". Mae arolwg ar ôl arolwg yn awgrymu mai rhyw 30% o bobol yr Alban sydd o blaid annibyniaeth. Os am gael cefnogaeth rhagor o bobol - fe fydd yn rhaid i Alex Salmond ei darbwyllo y bydd Alban annibynol yn gallu cynnal ei hun yn ariannol. Fe fydd llawer yn dibynnu hefyd sut y bydd y wlad yn perfformio yn economaidd yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Er bod rhai o aelodau yr SNP yn awyddus i ymwahanu oddi wrth Brydain yn syth, mae Alex Salmond wedi awgrymu mai gam wrth gam y bydd yn gweithredu. Fydd y refferendwm ddim yn cael ei chynnal am dair neu bedair blynedd. Mae'n bosib hefyd y bydd y papur pleidleisio yn cynnwys trydydd dewis - sef datganoli pellach, ble byddai Senedd yr Alban yn derbyn mwy o gyfrifoldebau gwleidyddol, ond yn rhannu rhai, fel amddiffyn a materion tramor gyda Llundain.

Yn ôl y Dr Peter Lynch o adran wleidyddiaeth Prifysgol Stirling, dydi annibyniaeth ddim yn anochel, ond mae teimladau pobol yr Alban tuag at hunan-reolaeth yn fwy cadarnhadol nag y buon nhw yn y gorffennol.

MANYLU gyda Alwen Williams ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Mehefin 13eg am 6 o'r gloch.

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.