Pafiliwn y Bobl neu Shed Berygl?
Mae na rwyg yng Nghorwen ynglyn â thynged Pafiliwn y dre a godwyd union gan mlynedd yn ôl. Fe'i adeiladwyd gydag arian pobl cyffredin yr ardal, fel safle i gynnal digwyddiadau i hybu diwylliant Cymraeg ac fe gafodd ei drosglwyddo gan y gymuned i ddwylo'r awdurdod lleol toc wedi'r Ail Ryfel Byd, ond does na ddim gwariant sylweddol wedi bod arno ers degawdau.
Oherwydd hyn mae ei gyflwr wedi gwaethygu gymaint nes bu'n rhaid i Gyngor Sir Ddinbych ei gau flwyddyn yn ôl oherwydd ei fod yn beryg i'r cyhoedd.
Yn ôl yr Awdurdod lleol mi fysa'n costio mwy na hanner miliwn o bunoedd i'w adnewyddu i gyraedd safonnau adeiladu presennol, a does ganddyn nhw ddim yn arian i wneud hynny, felly mae nhw am ei ddymchwel a rhoi'r tir yn nôl yn nwylo'r gymuned.
Ond mae'r dref wedi ei rhannu. Mae na gnewyllyn wnaiff unrywbeth i'w achub ac mae na rhai sydd wedi diflasu ar yr holl drafodaeth am ei ddyfodol.
Pafiliwn Corwen - be fydd ei dynged? Clywch y dadleuon yn rhaglen materion cyfoes MANYLU gyda Anna-Marie Robinson ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, Mehefin 6ed am 6 o'r gloch.