Rhaglen Tudur Owen yn fyw o Wyl Gardd Goll
Heeeeelo!!! Fe gawsom ni hwyl yn darlledu'n fyw o Wyl Gardd Goll dydd Sul. Roedd y haul yn tywynnu ar 'Stad y Faenol - pawb yn ymlacio a mwynhau yr heulwen. Roedd y chwiaid bach wrth ei boddau ar y llyn, ac wrth gwrs roedd y gerddoriaeth yn wych...twtch rhy uchel i fy nglustiau fi falla, ond dyna ni!
Ar gychwyn y rhaglen fe glywsom ni 'chydig o hanes Stad Y Faenol gan yr hanesydd John Dilwyn. Fues i'n brysur iawn yn tynnu llyniau o'r wyl, a rhoddwyd her gan Tudur i mi dynnu 4 llun mewn 4 categori sef; Rhywbeth Hanesyddol, Natur, Rhywun Enwog, a Portaloo - felly nes i dynnu llun Dyl Mei sydd yn darlunio y 4 peth!
Fe gafodd Tudur hwyl yn sgwrsio gyda Carwyn ac Aled o'r band Dau Cefn, a Cowbois Rhos Botwnnog. Daeth Cowbois Rhos Botwnnog i ddallt mai yncl Tudur o Benllyn oedd yr ysbrydoliaeth tu ol i enw'r band; pwy fysa'n meddwl!
Dwi'n meddwl bod y Digwyddiadur gorau wedi digwydd dydd Sadwrn dwytha. Fe gawom ni Ed Holden i rapio holl diwgyddiadau'r penwythnos i gan o'r ffilm Godzilla!! Tudur wedi gwirioni gyda fo gymaint, nathom ni chwarae fo dair gwaith gyda caniatad y cynhyrchydd Gareth Iwan!! Dwn im be nawn ni nesa!???!!!
Roedd rhaid i Dyl Mei ein gadael ni yng nghanol y rhaglen i chwarae gyda Dau Cefn, da de!....
Grwp electroneg quirky, eitha gwahanol i bopeth arall yn yr wyl
A dyna ni dwi'n meddwl, fyddan ni'n cael hoi fach wan am bethefnos oherwydd y Steddfod, fydd rhaglen Tudur yn ol mewn pethefnos!
Hwyl
Manon
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý
Ìý