Tlws Coffa Dic Jones
Dyma dlws newydd sbon y Talwrn - Tlws Coffa Dic Jones, sy'n cael ei roi am gywydd gore'r gyfres am eleni. Bydd y tlws hyfryd yn cael ei gyflwyno yn ystod rownd derfynol y Talwrn ym Mhabell Lên Steddfod Wrecsam ddydd Sadwrn yma am 3.45 - dewch draw i weld pwy fydd y cywyddwr lwcus.
Mi gewch chi glywed y rhaglen nos Sadwrn am 7yh ac eto ddydd Sul am 6yh.Â