Llond cyfres o gyfleoedd yn Cyfle Cothi
Yn y gyfresÌý newydd hon o Cyfle Cothi, Steffan Jones o Gaerdydd yw’r cyntaf i dderbyn cyfle arbennig i dderbyn hyfforddiant a chyfle unigryw i berfformio ar lwyfan cyhoeddus. Yn enw cyfarwydd i lawer gan iddo fod yn un o gystadleuwyr Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2011 ac yn gystadleuwr rheolaidd mewn eisteddfodau amrywiol, astudiodd Steffan yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain, a Phrifysgol Rhydychen cyn hynny.
Ìý
Shan Cothi, Steffan Jones, ag Aled Hall
Fel rhan o’r rhaglen, a gyflwynir gan Shân Cothi, bydd Steffan yn derbyn hyfforddiant gan arbenigwr yn ei faes, Aled Hall, mewn dosbarth meistr.Ìý Ac mae Aled Hall, un o Dri Thenor Cymru, yn rhagweld dyfodol disglair i’r canwr ifanc.
Ìý
"Mae gan Steffan lais arbennig iawn," meddai Aled. "Heb os, yn enwedig am ei oedran, mae ganddo lais arbennig a dyfodol disglair o’i flaen. Roedd yn bleser ei ddysgu, ac roedd yn un oedd yn gwrando arna i. AÌý dyna sy’n bwysig pan chi’n dysgu, eich bo chi yn gwrando a derbyn cyngor."
Fel rhan o’r rhaglen bydd Steffan yn derbyn her o ganu mewn cyngerdd, a’r her enfawr iddo yw canu yn un o gyngherddau’r Tri Thenor eu hunain.
"Roedd hwn yn ei hun yn brofiad da oherwydd pan ych chi yn cychwyn, mae’n bwysig iawn bo ti yn cael dy weld a dy glywed trwy’r amser," meddai Aled Hall. "Byddwn i wrth fy modd o fod wedi cael cyfle fel hyn. Hefyd, fe wnes i fwynhau rhoi’r dosbarth meistr, y tro cyntaf i mi wneud hynny, ac mae’n rhywbeth y bydden i yn mwynhau ei wneud yn y dyfodol eto."
Cyfle Cothi, Dydd Gwener, Rhagfyr 9, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru 1.15pm
Ìý