Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Manylu: Pop Cymraeg - pa ddyfodol?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Criw Manylu Criw Manylu | 12:30, Dydd Llun, 5 Rhagfyr 2011

Mae'r byd pop Cymraeg ar groesffordd yn ol un o hen hoeolion wyth y diwydiant. Yn ol Rhys Mwyn - gynt o'r Anhrefn ac sydd hefyd wedi gweithio fel rheolwr bandiau ac artistiaid unigol, mae'r angerdd wedi diflannu o ganu cyfoes Gymraeg. Ag yntau i raddau helaeth wedi cefnu ar y byd cerddoriaeth I weithio fel archaeolegydd, mae'n dweud bod angen syniadau ac amcanion newydd ar gyfer canu pop Cymraeg.

Nid fe yw'r unig berson arferai fod yn flaenllaw yn y byd roc a phop sydd wedi rhoi'r gorau i wneud bywoliaeth ohono. Mae Gai Toms - sy'n perfformio fel unigolyn ac sydd wedi bod yn aelod o Anweledig yn ddiweddar wedi bod yn gweithio fel athro rhan amser - am nad oes digon o incwm i'w wneud o'r byd cerddoriaeth. Mae e yn rhoi y bai yn blwmp ac yn blaen ar newidiadau yn y system freindaliadau ar gyfer cerddorion. Mae 'na ostyngiad mawr yn y tal mae'r PRS - y cwmni sy'n gyfrifol am gasglu breindaliadau yn ei roi i gyfansoddwyr pan mae un o'u caneuon yn cael ei chwarae ar Radio Cymru - ac mae hynny, meddai yn golygu fod ei incwm wedi gostwng yn sylweddol.

Mae 'na ffactorau eraill fodd bynnag sy'n effeithio ar gerddorion - yng Nghymru a thu hwnt. Yn eu mysg mae datblygiad y We - a'r ffaith nad oes raid prynu cryno ddisgiau mwyach er mwyn gwrando ar gerddoriaeth. Tra bod rhai pobol yn defnyddio gwefannau cyfreithlon - ac yn talu am lawrlwytho cerddoriaeth - mae llawer mwy yn gwneud hynny'n anghyfreithlon, heb dalu'r un geiniog.

Dywed rhai artistiaid fodd bynnag fod y byd pop Cymraeg yn dal yn fyw ac yn iach. Un o'r bandiau fu'n siarad a Manylu yw Cowbois Rhos Botwnnog. Gan dderbyn mai ychydig o arian sydd i'w wneud ohono, mae rhai o'u haelodau nhw yn ceisio byw yn llawn amser oddi ar eu cerddoriaeth, gan ddibynnu ar gyngherddau byw ar gyfer y rhan fwyaf o'u hincwm. Hyd yn oed yn y dyddiau yma o gynni economaidd, maen nhw'n dweud bod safon ac amrywiaeth y grwpiau Cymraeg sy'n brysur ar hyn o bryd gystal ag erioed.

Mae'r Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn rhan o drafodaethau i geisio datrys problem breindaliadau isel ar gyfer cerddorion Cymraeg. Er nad yw John Hywel Morris o'r PRS yn derbyn bod eu system newydd nhw'n anheg, mae e'n cydymdeimlo gyda sefyllfa cerddorion, ac yn dadlau y dylai arian cyhoeddus gael ei roi ar ffurf grantiau i'w galluogi i barhau i weithio ym myd cerddoriaeth.

Ond nid pawb sy'n cytuno a hynny. Does dim pwrpas rhoi grantiau i fandiau nad oes neb eisiau gwrando arnyn nhw meddai Rhys Mwyn. Mae e yn galw ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn comisiynu ymchwil i ddarganfod be yn union ydi diddordebau diwylliannol pobol ifanc - a pha fath o gerddoriaeth maen nhw eisiau ei glywed. Mi allai hynny, meddai, roi cyfeiriad newydd i'r byd pop. Gyda thechnoleg yn galluogi pobol ifanc i gael eu diddanu mewn nifer o ffyrdd newydd, mae'r "dyfodol" eisoes wedi cyrraedd meddai. Y peryg yw fod y byd pop Cymraeg yn dal yn sownd yn y gorffennol.

Manylu nos Lun 5ed o Ragfyr am 1803 ar Radio Cymru.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 10:03 ar 6 Rhagfyr 2011, Rhodri ap Dyfrig ysgrifennodd:

    >> "Tra bod rhai pobol yn defnyddio gwefannau cyfreithlon - ac yn talu am lawrlwytho cerddoriaeth - mae llawer mwy yn gwneud hynny'n anghyfreithlon, heb dalu'r un geiniog."

    Beth ydi'ch ffynhonell chi ar gyfer y gosodiad yma? 

    Dwi ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol na chyfrifol o ran cael dadl gytbwys ydi cyhoeddi blog am y ddadl heb roi dolenni i ffynhonellau'r wybodaeth. 

    Mae'n eitha dadleuol honni bod llawer mwy yn lladrata cerddoriaeth nac sydd yn prynu gan yn aml cyrff masnachol y diwydiant cerddoriaeth ei hun sydd yn cynhyrchu'r data gwerthiant (yn aml gan hepgor dulliau gwerthiant amgen fel rhai uniongyrchol gan artistiaid).

    Roedd Dafydd Roberts yn cyfaddef yn y rhaglen nad yw lawrlwytho anghyfreithlon yn gymaint â hynny o broblem ar gyfer cerddorion Cymraeg, felly pam rhoi cymaint o bwyslais arno?

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.