Ö÷²¥´óÐã

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Beth yw Tynged yr Iaith Gymraeg yn 2012?

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Newyddion Newyddion | 08:32, Dydd Llun, 13 Chwefror 2012

Arolwg Barn Radio Cymru 2012

Hanner can mlynedd wedi Tynged yr Iaith, darlith enwog Saunders Lewis a ddarlledwyd ar yr hen Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐã Service, mae Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru wedi cynnal arolwg i gasglu barn pobl ledled Cymru am yr iaith Gymraeg.

Yn 1962, proffwydodd Saunders Lewis ddiwedd ar yr iaith Gymraeg fel "iaith fyw" erbyn dechrau'r Unfed Ganrif ar Hugain. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, holwyd dros 1,000 o bobl ar draws Cymru - yn siaradwyr Cymraeg ac yn ddi-Gymraeg - am eu hagwedd tuag at yr iaith.


Statws yr iaith
Credai bron i dri o bob pump bod angen cryfhau statws yr iaith ymhellach. Siaradwyr Cymraeg ac yn arbennig y rhai 16-24 oedd fwyaf o blaid hyn. Roedd dros saith o bob deg siaradwr Cymraeg yn credu bod angen cryfhau statws yr iaith, ac er bod y ganran yn llai ar gyfer y di-Gymraeg sef 56%, mae hyn yn fwy na'u hanner.

Ìý

Defnyddio'r iaith
Er bod y sefyllfa o ran yr hawl i ddefnyddio'r iaith wedi esblygu ers 1962, llai na hanner y siaradwyr Cymraeg a holwyd sy'n defnyddio'r Gymraeg o gwbl wrth drafod â chwmnïau a sefydliadau gwahanol. Mae'r niferoedd sy'n defnyddio'r Gymraeg yn is ymhlith siaradwyr Cymraeg yn y De ddwyrain ac ymhlith y rhai ifanc. Mae canran uwch yn defnyddio'r Gymraeg yn y siopau a'r archfarchnadoedd (47%), a'r cynghorau neu'r Llywodraeth (42%) na gyda'r banciau a chwmnïau ariannol (31%) a'r cwmnïau ffôn, trydan, nwy a dwr (23%).

Ac o ran defnyddio'r iaith, dim ond hanner y siaradwyr Cymraeg oedd yn credu bod angen mwy o bwyslais ar gywirdeb iaith yn gyffredinol. Roedd amrywiaeth barn o blith y grwpiau oedran -Ìý gyda mwy o'r rhai iau na'r rhai hyn o'r farn bod angen mwy o bwyslais ar gywirdeb iaith.

Ìý

Yr hawl i Addysg Gymraeg
Mae gwahaniaeth barn amlwg rhwng siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg i'r cwestiwn a ddylai rhieni a disgyblion yng Nghymru gael dewis os nad ydyn nhw yn dymuno astudio Cymraeg fel pwnc yn yr ysgol. Tra bo dros hanner (55%) y siaradwyr Cymraeg o'r farn na ddylai bod dewis, mae dros hanner (56%) y rhai di-Gymraeg o blaid rhoi dewis.


Cymreictod
O ran Cymreictod, llai na thraean (32%) y rhai a holwyd oedd o'r farn fod y gallu i siarad Cymraeg yn gwneud unigolyn yn fwy o Gymro. Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o feddwl hyn ond maent dal yn y lleiafrif (43%).


Bydd rhaglen newyddion foreol Radio Cymru, Post Cyntaf, allan ar daith yn ystod yr wythnos, wrth iddi ddatgelu manylion yr arolwg barn hwn ar yr iaith; adroddiad Bwrdd yr Iaith sydd yn edrych ar gyflwr yr iaith yn ein cymunedau; effaith toriadau ariannol ar yr iaith a'r mentrau iaith a hefyd pam ei bod hi'n her cael pobl ifanc i siarad yr iaith.

O ddydd Llun - Gwener, Chwefror 13-17, bydd tîm y Post Cyntaf yn ymweld â Phontypridd, Llanfair Caereinion, Wrecsam, Botwnnog a Rhydaman.

Arolwg: 'Cryfhau statws yr iaith'

Ìý

Ö÷²¥´óÐã iD

Llywio drwy’r Ö÷²¥´óÐã

Ö÷²¥´óÐã © 2014 Nid yw'r Ö÷²¥´óÐã yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.