Hanner can mlynedd ers darlith enwog Tynged yr Iaith
Hanner can mlynedd wedi darlith enwog Tynged yr Iaith ar yr hen Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐã Service, lle proffwydodd Saunders Lewis ddiwedd ar yr iaith Gymraeg fel "iaith fyw" erbyn dechrau’r Unfed Ganrif ar Hugain, bydd rhaglenni arbennig gan Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn cael eu darlledu’r wythnos nesaf.
Ìý
Er mwyn nodi’r achlysur, bydd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru yn edrych ar amrywiol agweddau tuag at y Gymraeg yn 2012, trwy amrywiol raglenni, gan gynnwys darlith gan bump o Gymry modern a chyfarwydd fydd yn trafod eu barn a’u rhagolygon ynghylch yr iaith. Darlledir y darlithoedd rhain am 12pm.
- Dydd Llun, Chwefror 13 - Guto Bebb AS, Aelod Seneddol Ceidwadol dros etholaeth Aberconwy
- Dydd Mawrth, Chwefror 14 - Y Prifardd Rhys Iorwerth
- Dydd Mercher, Chwefror 15 - Gwyneth Lewis, bardd a llenor, a Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2005
- Dydd Iau, Chwefror 16 - Dr Simon Brooks, cyn-olygydd y Barn a darlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.
- Dydd Gwener, Chwefror 17- Meri Huws, darpar Gomisiynydd newydd yr iaith Gymraeg
Fel cyflwyniad i’r darlithoedd hyn, bydd Saunders a Thynged yr Iaith ar nos Sul, 5.45pm yn gyfle i Vaughan Roderick roi darlith radio Saunders Lewis yn ei chyd-destun hanesyddol a chymdeithasol, gan holi pa mor ddylanwadol oedd y ddarlith mewn gwirionedd gyda’i westeion arbennig Gareth Miles, Dr John Davies, Dr Harri Pritchard Jones a’r colofnydd a’r hanesydd Hywel Williams.
Ìý
Bydd y rhaglen newyddion foreol, Post Cyntaf, allan ar daith yr wythnos nesaf, wrth iddi ddatgelu manylion arolwg barn newydd ar yr iaith gan Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru; adroddiad Bwrdd yr Iaith sydd yn edrych ar gyflwr yr iaith yn ein cymunedau; effaith toriadau ariannol ar yr iaith a’r mentrau iaith a hefyd pam ei bod hi’n her cael pobl ifanc i siarad yr iaith. O ddydd Llun - Gwener, Chwefror 13 - 17, bydd tîm y Post yn ymweld â Phontypridd, Llanfair Caereinion, Wrecsam, Botwnnog a Rhydaman.
Ìý
"All neb ddiystyru arwyddocâd darlledu Tynged yr Iaith ar y Ö÷²¥´óÐã yn 1962. Fe arweiniodd at drobwynt yn hanes yr iaith Gymraeg ac at ddeffroad cenedlaethol ynglyn â sefyllfa’r iaith," meddai Sian Gwynedd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg Ö÷²¥´óÐã Cymru.