Manylu - Holi Defnyddwyr Ifanc
Mae 12% o blant dan 15 oed yng Nghymru yn cymryd canabis.
Bydd Manylu ar Radio Cymru heno yn siarad â dau fachgen wnaeth gychwyn ei ysmygu pan oedden nhw yn 12 oed. Maen nhw dal i’w gymryd flynyddoedd wedyn.
Yn ôl ymchwil diweddar, mae traean sy’n ei gymryd yn credu nad ydy’n gwneud drwg o gwbl i’w iechyd. Ond yn ôl Sefydliad Ysgyfaint Prydain, y gwir ydy fod y risg o gael canser drwy ysmygu canabis 20 gwaith yn uwch o’i gymharu ag ysmygu tybaco yn unig.
Yn ôl y bechgyn sy’n siarad â’r rhaglen, mae’n bosib ei brynu mewn rhai ysgolion - gan ddisgyblion eraill. Mae 'na nifer yn ei gymryd yn ystod oriau addysg, hefyd, meddant nhw. Mae'r pryder am yr effaith tymor hir ar eu hiechyd – yn gorfforol ac yn feddyliol - yn cynyddu ymysg rhai sydd yn gweithio yn y maes.
Holi defnyddwyr ifanc – Manylu – gyda Anna-Marie Robinson, ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, nos Lun am 1803pm.