Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 01 Awst 2012
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
Ìý
Caryl a Daniel - Ffwr a Phlu
ymwelwyr - visitors
yn eu plith - in their midst
poblogaidd - popular
gori - to hatch
anarferol - unusual
coesog - leggy
dynwarediad - imitation
deuawd - duet
bu Radio Cymru ar daith i Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd wythnos yma. O wartheg i ddefaid, ceffylau i foch, mi lwyddodd y sioe i ddenu bron i gant naw deg o filoedd o ymwelwyr eleni i weld yr anifeiliaid hardd hyn. Yn eu plith roedd Caryl a Daniel Glyn a fentrodd i'r babell 'Ffwr a Phlu' i ddysgu mwy am ddangos ieir yng nghmwni Picton Jones.
C2 Magi Dodd - Her Glyn Wise
arddangos - to show
talentau - talents
her - challenge
hyfforddi - to train
cymryd rhan - to take part
tynnu rhaff - tug of war
gobaith - hope
cryfder - strength
cledr - palm
techneg - technique
Caryl druan! Dyna i chi gur pen! Ond nid anifeiliaid yn unig sy'n cystadlu yn y Sioe Frenhinol. Mae sawl cystadleuaeth i bobl yn ogystal, yn arddangos pob math o dalentau! Her Glyn Wise wythnos yma oedd ymweld a'r sioe a chael ei hyfforddi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth tynnu rhaff. Pob lwc i ti, Glyn!
C2 Dylan Ebenezer - Mark Davies - Tynnu Rhaff
Rhywsut neu'i gilydd - somehow or other
dychmygu - to imagine
pencampwr - champion
cyffro - excitement
pwysau - weight
ysgafn - light
trwm - heavy
Ffermwyr Ifanc - Young Farmers
awyrgylch - atmosphere
Rhywsut neu'i gilydd, fedra i ddim dychmygu Glyn yn bencampwr tynnu rhaff! Mae angen dipyn o sgil a chryfder, fel yr eglurodd Mark Davies, aelod o dim tynnu rhaff Llanboidy, mewn sgwrs gyda Dylan Ebenezer nos Fawrth. Dyma Mark i ddisgrifio cyffro'r cystadlu blynyddol yn y Sioe.
Y Gerddorfa - Mozart
torf - crowd
clasurol - classical
ymuno - to join
cerddorfa - orchestra
diweddar - recent
alaw - melody
thema - theme
amrywiadau - variations
symudiad - movement
unawdydd - soloist
O swn y dorf yn y Sioe Frenhinol i fyd cerddoriaeth glasurol awn ni nesa'. Nos Sul, mi wnaeth Gareth Glyn ymuno a Sian Parry Huws ar y rhaglen olaf yng nghyfres 'Y Gerddorfa' i drafod y concerto i’r clarinet gan Mozart. Dyma i chi glip o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y Ö÷²¥´óÐã yn perfformio'r darn ar eu taith yn China yn ddiweddar. Mwynhewch!
Beti - Brychan Llyr
cerddor - musician
cyflwynydd - presenter
alcoholiaeth - alcoholism
yn sgil - as a result of
difrifol wael - seriously ill
ymddygiad - behaviour
hunanol - selfish
pryder - anxiety
synhwyrol - sensible
yn raddol - gradually
Y cerddor a'r cyflwynydd Brychan Llyr oedd gwestai Beti ar ei rhaglen nos Sul. Yn ystod y cyfweliad mi wnaeth Brychan drafod ei alcoholiaeth a'r ffaith iddo fod mewn coma ddwywaith yn sgil ei yfed. Dyma Brychan i ddisgrifio ei berthynas ag alcohol dros y blynyddoedd.
Nia (Heledd Cynwal) - 11+
arholiadau - exams
Ysgol Ramadeg - Grammar School
traddodiad - tradition
dathlu - to celebrate
llwyddiant - success
plentyndod - childhood
carreg filltir - milestone
unigryw - unique
ceiniogau - pennies
arferiad - custom
Dw i'n falch o gael dweud 'mod i lawer rhy ifanc i gofio'r 'Eleven Plus', yr hen arholiadau yr oedd yn rhaid i blant eu sefyll er mwyn penderfynu i ba ysgol uwchradd yr oedden nhw am gael mynd iddi; yr ysgol ramadeg neu'r ysgol fodern. Olwen Rees oedd gwestai Heledd Cynwal ddydd Llun. Dyma hi i adrodd hanes yr hen draddodiad yng Nghaernarfon o ddathlu llwyddiant plant yn yr arholiadau 'Eleven Plus'.
C2 Branwen Haf Williams - Myrddin ap Dafydd
crefft - craft
cyfansoddi - to compose
canllawiau - guidelines
creu - to create
ymarfer - to practice
achlysur - occasion
odyn galch - lime kiln
cyfeillgar - friendly
ymylon - on the edge
cyfareddu - to enchant
Dyma ddiolch mai i'r 'comprehensive' lleol es i, felly! Y bardd Myrddin ap Dafydd ddaeth i'r stiwdio ddydd Mercher i drafod y grefft o gyfansoddi geiriau i gerddoriaeth yng nghwmni Branwen Haf. Dechreuodd Myrddin 'sgwennu geiriau i'r grwp 'Mynediad am Ddim' pan oedd o'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ers hynny, mae Myrddin wedi 'sgwennu geiriau i sawl can gan gerddorion fel Geraint Lovgreen, Tecwyn Ifan a'r grwp 'Plethyn'.