Manylu: Faniau tân: Bywydau mewn peryg?
Mae penderfyniad Gwasanaeth Tân y Canolbarth a’r Gorllewin i brynu 16 o faniau newydd i gymryd lle rhai injanau tân traddodiadol yn rhoi bywydau mewn peryg, yn ôl undeb y ddiffoddwyr tân.
Ym marn yr FBU (Fire Brigades Union) ceisio arbed costau mae’r Gwasanaeth Tân, ond mae’r penaethiaid yn dweud mai moderneiddio yw eu bwriad.
Maen nhw’n mynnu y bydd y cerbydau newydd yn cynnig ffyrdd modern ac effeithiol o ddiffodd tanau ac y byddan nhw’n medru cyrraedd mannau gwledig, na fyddai peiriannau mwy yn medru gwneud.
Ond pa mor effeithiol yw’r faniau mewn gwirionedd, ac a ydy Gwasanaeth Tân y Canolbarth a’r Gorllewin mewn peryg o losgi eu bysedd?
Manylu gyda Ioan Wyn Evans am 6 o’r gloch heno ar Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru.
Ìý