Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 04 Gorffennaf 2012
Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf
听
听
Manylu - Wimbledon
cynulleidfa byd-eang - worldwide audience
mefus - strawberries
pencampwriaeth - championship
ysbrydoliaeth - inspiration
brwdfrydedd - enthusiasm
byr-dymor - short term
y trueni ydy - the shame of it is
dal ei dir - holding its ground
benthyciad heb log - interest free loan
denu - to attract
"..efo Wimbledon wrth gwrs. Weloch chi'r g锚m fawr ddydd Sul? Hen dro am Murray ynde? Mae'n debyg mai Albanwr fydd o'n y papurau rwan yn hytrach na Phrydeiniwr...Tybed welwn ni Gymro neu Gymraes yn y ffeinal ryw ddydd? Ar manylu yr wythnos diwetha mi aeth Glesni Jones i weld sut siap sydd ar y g锚m yn rhai o glybiau lleol Cymru. Dyma hi'n siarad efo aelodau o glwb tenis Bangor...
Talwrn - Limerig
sylwebydd chwaraeon - sports commentator
digalon - trist
ail-ddangos - to repeat (a programme)
cymeriadau - characters
chwedlonol - fabled
druan 芒 fe - poor dab
dwy fantais glir - two clear advantages
parchu'r llinell osod - to respect the task
llinell glo - final line
"Taswn i'n sylwebydd chwaraeon, neu'n sylwebydd tenis efo'r 主播大秀 o leia, ella 'swn innau wedi cael tocyn i'r ffeinal yn Wimbledon. A wyddoch chi be? Dyna oedd y llinell gafodd ei rhoi yn dasg i d卯mau'r Talwrn yr wythnos diwetha - 'pe bawn i'n sylwebydd chwaraeon...'. Y ddau d卯m oedd yn cystadlu yn y Talwrn oedd Y Tir Mawr a Hiraethog. Dyma limerig Gareth Jones o'r Tir Mawr i ddechrau..."
Cofio - geiriau
pedwar ban byd - four corners of the earth
myn cythraul i - I'll be blowed
pwy gas i - pey gafodd hi
bendith - bless (you)
macyn - hances
so Dan da ti - dydy Dan ddim efo ti
da i ddim - good for nothing
ffili - methu
blaidd - wolf
yn dueddol i anghofio - tends to forget
"Y Tir Mawr aeth ymlaen i ennill, ac mae nhw rwan yn y rownd gyn-derfynol, un cam o'r ffeinal! Yn y Steddfod bydd y ffeinal ei hun, ac mi fydd yna bedwar t卯m yn cystadlu yno! 'Pedwar' oedd thema Cofio yr wythnos diwetha a mynd 芒 ni i bedwar ban byd wnaeth Lyn Ebenezer a Peter Hughes Griffiths. Wel i wledydd Affrica o leia, wrth iddyn nhw chwarae efo geiriau mewn ffordd andros o glyfar yn y g锚m banel 'Pwll Bach Arall' gafodd ei chlywed gynta yn 么l yn Nwy Fil a Dwy...."
Blas - Bwydo'r Bobl
sy'n berchen - who owns
proflenni - proofs
amryw - several
sefyll yn sobor - stay sober
gweini - to serve
arbrofion - experiments
tad-cu - taid
dywediad - saying
menyw - dynes
"Nid yn Affrica, ond yn Llanbed mae Lyn Ebenezer yn y clip nesa ma! Aeth Rhodri Ogwen i siop chips Lloyd鈥檚 yn Llambed i siarad efo Stuart Lloyd, gafodd ei eni a鈥檌 fagu yn y siop, ac sy rwan yn rhedeg y lle.
Mae Lyn Ebenezer a Stuart wedi ysgrifennu llyfr am hanes y busnes, o'r enw 'Bwydo鈥檙 Bobl'. Dyma Stuart yn trio perswadio Rhodri mai bwyd iach sydd i'w gael yn y siop chips!"
Beti a'i Phobl - garddio
nain - mam-gu
cymydog - neighbour
co(f) plentyndod - childhood memories
ty gwydr - greenhouse
yn dlawd - poor (no money)
cyffredin - ordinary
un cyfa(n) - a whole one
i raddau - to an extent
amau - to suspect
hau'r hadyn - to sow the seed
"Ydy gwrando ar y clip yna yn gwneud i chi isio cael platiad o bysgod a sglodion? A'i olchi i lawr efo potel o bop! A choeliech chi mai pop, Coco-Cola o bopeth, sy'n gyfrifol am ddiddordeb Carol Gerecke mewn garddio? Carol sy'n rhoi tips garddio i ni ar ragalen Geraint Lloyd, a hi oedd gwestai Beti George yr wythnos hon. Gofynodd Beti iddi hi pryd dechreuodd y diddordeb mewn garddio?"
Dei Tomos - Gwrachod
gwrachod - witches
cwestiwn dybryd - difficult cwestion
erledigaeth - persecution
rheithgorau - juries
chrogwyd yr un - not one was hanged
dowcio - ducking
y gosb eitha - execution
diedifar - remorseless
marwolaethau - deaths
pwnc llosg - burning issue
"Awn ni o'r ardd rwan i fyd plant bach, byd y tylwyth teg a gwrachod. Damian Walford Davies fuodd yn sgwrsio am ei lyfr newydd 鈥淲itch鈥 efo Dei Tomos ddydd Sul. Yn y clip cawn glywed sut daeth o i ysgrifennu'r llyfr, a be oedd rhan ei ferch fach o, Christen, ym mhenderfyniad Damian i sgwennu am wrachod..."
Daf a Caryl - C芒n y Babis
gwyrthiau bach - little miracles
efeilliad - twins
dathlwn mewn llawenydd - celebrate with joy
hwyl a sbri - fun and games
tywynnu - to shine
yr un o'nyn nhw - neither of them
hardd - beautiful
m么r o gariad - sea of love
"A dan i'n aros ym myd y plantos rwan efo Al Lewis yn perfformio C芒n y Babis ar gyfer Mis Mehefin, yn fyw yn y stwidio. Mae na dros bedwardeg o enwau'r mis hwn felly mae'r g芒n ychydig yn hirach na'r arfer! A pheidiwch a phoeni os nad dach chi'n deall bob gair - mae na ychydig o Ffrangeg yn y canol! Mwynhewch y g芒n hyfryd hon..."