主播大秀

Archifau Medi 2012

Pigion i ddysgwyr: 26 Medi 2012

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Pigion Pigion | 14:32, Dydd Mawrth, 25 Medi 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod

Amserlen Newydd Radio Cymru

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听,听,听,听,听,听,听

Lowri Davies Lowri Davies | 14:04, Dydd Llun, 24 Medi 2012

Sylwadau (0)

Mae'n gyfnod cyffrous ar Radio Cymru wrth i ni lansio amserlen newydd sbon ar Hydref 1af fydd yn cynnwys cyflwynwyr a rhaglenni newydd sbon, yn ogystal a lleisiau cyfarwydd yr orsaf. Bydd y cyfan yn cychwyn am 05.30 bob bore gyda chyfle arall i glywed rhai o raglenni cerddorol yr orsaf megis Taro Nodyn, Hywel Gwynfryn, Ar Eich Cais gyda Dai Jones, Richard Rees a Sesiwn Fach (mwy am y rhaglen honno nes ymlaen!).听

Fe fydd y Post Cyntaf yn dod 芒'r newyddion diweddaraf o Gymru a'r byd fel arfer am 06.30 gyda Dafydd a Caryl yn dilyn am 08.30 鈥 a dwi'n edrych ymlaen at fore Llun Hydref 1af pan fydd artist gwadd yn dod mewn i'r stiwdio at Daf a Caryl听i berfformio Can Babis mis Medi. Yna, am 10.30 bob bore, Llun i Gwener, fe fydd Iola Wyn yn cyflwyno rhaglen newydd sbon yn fyw o stiwdio Caerfyrddin. Yn wyneb a llais cyfarwydd fel cyn-gyflwynwraig听Ffermio听ar S4C, a newyddiadurwarig ar Radio Cymru, mae Iola'n wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw gyda'i theulu yn Sancl锚r. 鈥淒wi wrth fy modd yng nghanol pobl a bydd darlledu yng nghanol fy nghymuned fy hun yn gyffrous iawn鈥 meddai Iola. Bydd ei rhaglen yn gymysgedd eang o gyfrannwyr ac eitemau - o filfeddygon, garddwyr a chynghorion i hel achau a chynnwys o'r archif, a bydd cerddoriaeth y rhaglen gartrefol hon yn cynnwys corau, gwerin a cherddoriaeth glasurol.

Iola Wyn

Iola Wyn

Yna, am 12.30 fe fydd Dylan Jones yn Taro'r Post efo rhaglen estynedig tan 2. Bydd rhaglenni amrywiol gan gynnwys fferfynnau megis Y Talwrn, Dramau, Manylu, Stiwdio ac O'r Bae gyda Vaughan Roerick yn symud i 2 o'r gloch, gyda Nia Roberts yn cyflwyno yn y prynhawn o Ddydd Llun i Ddydd Iau 鈥 rhwng 2.30 a 5. Ac ar brynhawn Gwener fe fydd y penwythnos yn cychwyn o ddifri (neu ddim!) gyda Tudur Owen a'r criw am 2.30, cyn ei raglen ar bryhnawn Sadwrn rhwng 12 a 2.

Tudur Owen

Tudur Owen

Gyda rhifyn estynedig o'r Post Prynhawn am 5 bob dydd, fe fydd rhaglenni fel Dan yr Wyneb efo Dylan Iorwerth, Dei Tomos, Cofio a Beti a'i Phobl yn dilyn am chwarter wedi 6. Bydd C2 yn cychwyn am 7 gyda Huw Stephens bob nos Lun, Ifan Evans ar nos Fawrth, Lisa Gwilym ar nos Fercher a Georgia Ruth ar nos Iau 鈥 ac fe fydd Gwilym Rhys o'r grwp Y Bandana yn cyflwyno bob nos Wener ychydig yn gynt am hanner awr wedi 6. A gyda'r hwyr bob nos rhwng 10 a hanner nos fe fydd Geraint Lloyd yn gwmni i ni gyd cyn gwely gyda digon o gerddoriaeth, ceisiadau, sgyrsiau ac ambell i b么s.

Lisa Gwilym

Lisa Gwilym

Bydd ychydig o newid i'r penwythnosau ar Radio Cymru hefyd, gyda Hywel Gwynfryn yn cyflwyno rhaglen estynedig fydd yn cynnwys rhai o uchafbwyntiau'r wythnos yn ogystal 芒 pharhau i grywdro Cymru'n darlledu o gymunedau a digwyddiadau ar draws y wlad. Ac yna, ar brynhawn Sul am 3 o'r gloch bydd Sesiwn Fach yn rhoi llwyfan i gerddoriaeth werin ac acwstig yng nghwmni Idris Morris Jones. A bydd cyfle i glywed y rhaglen newydd hon unwaith eto, fel wnesh听i son ar y dechrau, bob bore Gwener am 05.30 鈥 neu drwy fynd i wefan Radio Cymru lle mae cyfle arall听i glywed bob un o raglenni'r orsaf drwy'r I-Player.

Bydd Radio Cymru ar ei newydd wedd felly'n cynnig rhaglenni newydd cyffrous, yn ogystal 芒 chadw rhai o'r fferfynnau sydd mor greiddiol i'r gwasanaeth. Dwi'n mawr obeithio y byddwch chi'r gwrandawyr 鈥 y bobl bwysicaf 鈥 yn mwynhau'r arlwy newydd ar gyfer y dyfodol.

Lowri Davies, Golygydd Rhaglenni Cyffredinol Radio Cymru

Iola Wyn yn darlledu rhaglen newydd o Gaerfyrddin

颁补迟别驳辞谤茂补耻: ,听,听

Newyddion Newyddion | 10:29, Dydd Llun, 24 Medi 2012

Sylwadau (0)

Bydd Iola Wyn yn cymryd yr awenau yn stiwdio y 主播大秀 yng Nghaerfyrddin ar gyfer rhaglen newydd sbon ar 主播大秀 Radio Cymru ar ddydd Llun, Hydref 1. Bydd Iola yn diddanu gwrandwyr yr orsaf am ddwy awr o 10.30am bob bore'r wythnos.

Yn gyn newyddiadurwraig a darlledwraig ar Newyddion ac ar 主播大秀 Radio Cymru, mae nifer yn ei hadnabod fel cyn-gyflwynwraig Ffermio ar S4C. Daw Iola yn wreiddiol o Aberystwyth ond erbyn hyn mae'n byw gyda'i theulu yn Sancl锚r ger Caerfyrddin.

Bydd lleisiau pobl Cymru wrth galon y rhaglen newydd hon. Ac fe fydd cymysgedd eang o gyfrannwyr ac eitemau - o filfeddygon a garddwyr i hel achau a chynnwys o'r archif.

Iola Wyn

Cynhyrchir y rhaglen hon gan gwmni Telesgop - cwmni annibynnol sydd wedi ei leoli yn y gorllewin.

"Fe wnes i fy ymddangosiad cyntaf ar Radio Cymru yn 7 oed pan ddoth y diweddar Robin Williams draw i ysgol Rhydypennau, Bow Street a gofyn i fi ddarlllen fy nhraethawd ar fy ymweliad ysgol i argraffdy'r Lolfa yn Nhalybont, a gafodd ei ddarlledu ar ei raglen. Roedd e'n gymeriad annwyl iawn ac wnaeth i fi deimlo'n hollol gartrefol. Dros ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, fedra i ddim credu y byddai'n cyflwyno fy rhaglen fy hun ar Radio Cymru. Gobeithio y medra i wneud i'r cyfranwyr deimlo mor gysurus ag yr oeddwn i, yn ei gwmni fe."

"Bydd hi'n braf iawn cael cyflwyno o stiwdio Caerfyrddin sydd chwarter awr o fy nghartref yn Sancl锚r. Dwi wrth fy modd yng nghanol pobl a bydd darlledu yng nghanol fy nghymuned fy hun yn gyffrous iawn."听听

Bydd rhaglen Iola Wyn yn rhan o amserlen newydd 主播大秀 Radio Cymru, sy'n cael ei lansio ar Hydref 1af, gyda lleisiau newydd yn ogystal a rhai mwy cyfarwydd yn rhan o'r t卯m.

Bydd Nia Roberts yn symud i'r prynhawn o ddydd Llun-Iau o 2.30pm gyda Tudur Owen yn cychwyn y penwythnos am 2.30pm bob ddydd Gwener. A gyda'r nos, mi fydd Geraint Lloyd yn cadw cwmni i wrandawyr yr orsaf o 10pm.

O nos Wener, Hydref 5, tan ddiwedd mis Mawrth bydd Gwilym Rhys o'r grwp Y Bandana yn ymuno 芒 th卯m C2 i gyflwyno rhaglen fyw wythnosol rhwng 6.30 a 9pm. Sioned Mills, sy'n adnabyddus fel un o gyflwynwyr podlediad Hacio'r Iaith, fydd yn cyflwyno'r rhaglen o fis Ebrill. Yna rhwng 9pm a 10pm ceir amrywiaeth o raglenni cerddorol gan gychwyn gyda Huw Chiswell fydd yn cyflwyno detholiad o'i hoff gerddoriaeth o'i gartref yng Nghaerdydd. Yn ogystal a rhaglenni dogfen cerddorol, fe fydd yr awr yma yn cynnig llwyfan i dalent cyflwyno newydd dros y flwyddyn nesaf.

Yn ogystal 芒 newidiadau i'r amserlen wythnosol, bydd Radio Cymru hefyd yn cyflwyno swn newydd bob prynhawn Sul am 3pm o Hydref 7 ymlaen. Idris Morris Jones fydd yn cyflwyno Sesiwn Fach, gan rhoi llwyfan wythnosol i gerddoriaeth werin ac acwstig ar y rhaglen newydd gyffrous hon.

Dewi Llwyd yn holi Elin Rhys

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 13:44, Dydd Sul, 23 Medi 2012

Sylwadau (0)

Ar ddiwrnod ei phenblwydd Elin Rhys pennaeth cwmni Telesgop oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul 23.09.12

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit 主播大秀 Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Y Pla Newydd, gan Beti George

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Newyddion Newyddion | 12:26, Dydd Gwener, 21 Medi 2012

Sylwadau (0)

Wedi'r ymateb anhygoel a gafodd y rhaglen deledu 鈥淯n o Bob Tri鈥 ar S4C roeddwn yn falch o gael y cyfle i ddilyn y pynciau a godwyd mewn cyfres i Radio Cymru. Enwais y gyfres yn Y Pla Newydd, waeth dyna beth yw Dementia, y gair ymbar茅l sy'n cynnwys Alzheimer's a dementia fasgwlar a dwsinau o fathau eraill.听 Mae'r ystadegau yn gyfarwydd erbyn hyn os bosib - gall daro pobl ifainc yn eu pedwar degau a chynt; un o bob tri o rai dros eu 65; hanner rheiny sy'n cyrraedd 85; y wladwriaeth yn arbed 6 biliwn o bunnau am fod y teulu yn gofalu 鈥︹. Ydi mae'n ddigon i godi braw ar y sinig mwya' ohonom.

Mae gwneud y gyfres Y Pla Newydd wedi cryfhau fy nyhead i weld newid yn y ffordd y mae pobl 芒 dementia yn cael eu trin. Roedd yr Athro Stephen Hawking yn s么n am un canlyniad positif y gemau paralympaidd - bod听 unigolyn ag anabledd yn cael ei weld fel person normal gyda rhai anawsterau arbennig.听 Wel, dyna'n union sut y dylid gweld unigolyn ag Alzheimer's neu ddementia. Mae Llywodraeth Cymru yn gneud cam 芒 phobl sy' 芒'r clefyd trwy ddiffinio'r salwch yn 鈥済lefyd meddwl鈥. Nid dyna yw e. Mae'r seicolegydd Dr Becci Dow, sy'n gweithio gyda phobl 芒 dementia i Fwrdd Iechyd Hywel Dda, yn mynnu dweud wrth y sawl sy' wedi cael y diagnosis, mai niwed ar yr ymennydd sy'n achosi'r colli cof. Mae'n lleihau'r stigma meddai. Mae canser ar yr ymennydd yn gallu arwain at yr un symptomau. Ond fuse neb yn dweud wrth rywun sy'n diodde' o ganser yr ymennydd ei fod wedi 鈥渃olli ei marbles鈥.

Canolbwyntio ar ofal wnaeth y rhaglen gynta' yn y gyfres - gofal gan deulu a gofal gan ofalwyr proffesiynol. Diffyg cefnogaeth oedd yn codi ei ben dro ar 么l tro. Er enghraifft - Si芒n Roderick, mam i dri o blant, ac sy'n gofalu ar 么l Dilys ei mam sy' ag Alzheimer's yn dweud, er iddi ofyn am help gan y gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaerdydd, doedd dim gobaith, am iddyn nhw ddweud wrthi fod llawer iawn a mwy o angen help na hi.

Mae 'na enghreifftiau lawer o ofal da听 - ond yn gyffredinol y teimlad yw nad yw'r gofalwyr proffesiynol wedi cael digon o hyfforddiant i ofalu ar 么l pobl 芒 dementia, sy' ag anghenion arbennig iawn.

Fe glywsom ni gan Emma bod pobl ifainc yn cael eu lluchio i mewn i'r swydd heb ystyried a ydyn nhw'n gymwys neu beidio. Tair ar hugain oed yw hi ac roedd hi wrth ei bodd yn gofalu am bobl 芒 dementia ond bu'n rhaid iddi roi'r gore i'r swydd am iddi gael gwybod ei bod yn diodde' rheumatoid arthritis.

Roedd hi'n 鈥渃orddi tu fewn鈥 meddai, yn credu nad oedd digon yn cael ei 鈥榥eud o safbwynt y llywodraeth i edrych o ddifri ar dementia - y gofal a'r ymchwil i ddod o hyd i ateb.

Yr hyn sy'n eironig yw'r ffaith bod gyda ni yng Nghymru arbenigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw sy'n cael eu cydnabod yn fyd-eang . Eto, pam nad yw Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi ac yn buddsoddi fel y dylen nhw yn yr ymchwil pwysig sy'n cael ei wneud yma? Yn y pen draw fe fydden nhw'n arbed arian.

Yn yr ail raglen, rhai sy'n byw gyda'r clefyd gafodd y sylw. Edmund yn Llandegfan, Sir F么n er enghraifft a'i wraig Sylvia yn gneud yn siwr bod bywyd yn mynd yn ei flaen gore gallen nhw. Gan fod Edmund yn dwli ar ganu, mae'r ddau yn mynd bob pythefnos i gael hwyl gyda'r grwp canu ym Mangor sy' wedi ei sefydlu gan y Gymdeithas Alzheimer's ac Ysgol Gerdd William Mathias ar y cyd. Ond i gael mynd i ganolfan ddydd rhywle yn Sir F么n, er gwaetha taflenni a gafodd Sylvia yn ei chyfeirio at wahanol gyrff, ofer oedd pob ymgais ar ei rhan i ddod o hyd i le felly.

At bwy i droi am help a chyngor oedd y cwestiwn a godai ei ben yn gyson yn y rhaglen hon.

Y groesffordd yw pwnc y drydedd raglen - pan fo edrych ar 么l anwylyd wedi mynd yn drech na'r gofalwr gartre sy' wedyn yn gorfod wynebu'r ystyriaeth boenus o ofal mewn cartre' preswyl. Os nad yw'r gwrand盲wr yn cael ei gyffwrdd 芒鈥榬 hyn sy'n cael ei ddweud yn y rhaglen hon, dyn a wyr ar ba blaned mae'n byw! Y gwir amdani yw y bydd cyfran helaeth ohonom yn gorfod wynebu hyn rywbryd. Ac os nad oes 'na chwyldro yn mynd i ddigwydd ym maes cartrefi preswyl, dwy i'n bersonol yn sicr ddim yn edrych 'mlaen at y profiad!听听

Dywed Hywel Jones, oedd yn chwilio am gartre parhaol i'w wraig Si芒n yn y rhaglen Un o Bob Tri, mai 鈥渂lin fu'r daith a hir dros anghynefin ffyrdd鈥 oedd y disgrifiad gore o'r profiad gafodd e. Ac fe welodd e rai cartrefi na fydde fe wedi rhoi Si芒n ynddyn nhw 鈥渁r ei grogi鈥. Doedd na ddim lle addas i Si芒n yng Ngheredigion o gwbl听 fyddai'n agos at eu cartre' yn Aberystwyth. Yn y diwedd, fe gafodd Si芒n, sy' ag anghenion dwys, le mewn cartre' addas yn yr Alltwen ger Pontardawe, sy'n gyfleus i'w dwy chwaer sy'n byw yn yr ardal. Cartre' sy'n costi 拢2000 yr wythnos. Ond oherwydd ei hanghenion gofal, cyrff statudol sy'n talu. Dywed Hywel na fuse fe byth yn gallu fforddio, ac mae'n ymwybodol iawn o'r dilemma y mae teuluoedd eraill yn gorfod ei wynebu. Talu miloedd o bunnau am y gofal addas a dyledus, neu wario llai a rhoi anwylyd mewn cartre' anaddas a llai safonol.

Mae'r Dr Betsan Rosser yn ymgynghorydd seiciatrig ac yn bennaeth ar yr uned dementia yn Ysbyty Tonna ger Castell-nedd. Roedden nhw ar fin colli ugain o welyau - ac mae'n rhaid symud y bobl i gartrefi preifat. Roedd hithau'n s么n am y gost o roi pobl mewn cartrefi, a'r amryfusedd difrifol sy' 鈥榥a wrth ystyried a ydi rhywun yn ddigon s芒l i gael gofal am ddim - y gofal iechyd parhaol (continuing health care). Mae'r gofynion yn uwch nag yn Lloegr, ac mae'n amrywio o fwrdd i fwrdd. Roedd Dr Betsan yn dweud bod y sawl sy'n dlawd ddim yn gorfod talu. Roedd y cyfoethog iawn yn gallu fforddio 拢2000 yr wythnos听 -听 ond y twr sy' yn y canol sy'n ei chael hi'n anodd ac amhosib meddai, ac roedd hi'n cytuno bod angen strategaeth bendant a chenedlaethol i fynd i'r afael 芒'r broblem enfawr.

Ond dyw'r darlun ddim yn ddu i gyd. Ar gyfer y rhaglen deledu Un o Bob Tri, roedden ni wedi ffilmio uned听 dementia bychan sydd ynghlwm wrth gartre preswyl Bryn Blodau yn Llan Ffestiniog. Yn Pla Newydd dwy i wedi gallu manylu'n fwy ar y math o ofal sydd i'w gael yno. Ann Lane oedd yn rhedeg y lle ar y pryd ac wyth o breswylwyr oedd yno - saith yn perthyn i'r rhyw deg! Roedd hi'n dweud am yr athroniaeth y tu 么l i'r gofal - bod dod i nabod cefndir pob un o'r preswylwyr yn hanfodol. Manylion dibwys ar yr olwg gyntaf meddai - er enghraifft a oes well ganddyn nhw goffi neu de. Beth oedd eu diddordebau nhw? Roedd un wedi bod yn magu ieir ar hyd ei bywyd. Fe brynwyd ieir iddi er mwyn iddi hi gael gofalu amdanyn nhw. Mae 'na ardd lle maen nhw'n tyfu llysiau o flodau. Maen nhw'n golchi'r llestri ac yn helpu i lanhau'r lle - fel tase nhw gartre meddai Ann.听 Ei dyhead hi yw gweld unedau bychain fel hyn ym mhob ardal yng Nghymru. Clywch, clywch meddwn innau, ac fe fuse Menna Davies o Landwrog ar ben ei digon petai 'na uned debyg yn ei hardal hi. Mae hi wedi gofalu am Ceredig, ei gwr, am ddeng mlynedd a mwy. Mae e wedi dirywio'n fawr erbyn hyn ac mae'n gorfod ystyried cartre' preswyl iddo. Ond hyd yn hyn meddai, er chwilio, dyw hi ddim wedi dod o hyd i un fyddai'n addas iddo - lle bach o saith neu wyth o breswylwyr fyddai'n gneud iddo deimlo ei fod 鈥済artre鈥.

Fel y dywed gwraig o'r gorllewin sy'n anfodlon tost 芒'r cartre y mae ei chwaer ynddo - 鈥 peidiwch 芒 chael fi'n rong - mae'r staff yn neis ond dwy i yn teimlo y dylen nhw gael eu dysgu'n well鈥︹ dwy'n teimlo'n flin am y bobl sy' mewn yna - achos erbyn yr oedran 鈥榥a, rych chi i fod cael gwell crac.鈥澨

Rown i'n arfer pasio'r llefydd yma heb feddwl ddwywaith amdanyn nhw - rown i'n selfish. Ond mae ei gweld hi听 yn un ohonyn nhw wedi agor fy llygaid, a dwy'n gobeithio bod rhywbeth yn dod o'r rhaglen yma fel bod pethau'n newid achos gwaeth mae pethe'n mynd a dweud y gwir wrthoch chi.鈥

Mae rhaglen olaf听gyfres Y Pla Newydd yn mynd allan ar ddydd Sul ac mae ar gael听ar wefan 主播大秀 Radio Cymru.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit 主播大秀 Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Beti George yn trafod gofalwyr dementia ar raglen Nia Roberts.

Comedi newydd Portars yn torri tir newydd ym mherthynas S4C a 主播大秀 Cymru Wales

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Newyddion Newyddion | 09:17, Dydd Gwener, 21 Medi 2012

Sylwadau (0)

Fe fydd menter newydd ar y cyd rhwng S4C a 主播大秀 Cymru yn dwyn ffrwyth am y tro cyntaf wrth i'r ddrama gomedi newydd Portars gael ei darlledu ar 主播大秀 Radio Cymru nos Wener, 21 Medi.听

Bydd Portars gan Eilir Jones, yn dilyn hynt a helynt criw o borthorion mewn ysbyty ddychmygol.听

Ond nid y cymeriadau bywiog yw'r unig beth unigryw am y ddrama radio newydd hon.

Portars yw'r cynhyrchiad cyntaf fel rhan o fenter newydd rhwng S4C a 主播大秀 Cymru i ddatblygu syniadau gan awduron drama a chomedi Cymraeg newydd, a chynhyrchu cynnwys gwreiddiol a allai fod yn addas i'r teledu neu'r radio - neu'r ddau gyfrwng.听听

Bwriad y ddau ddarlledwr Cymraeg yw gweithio gyda'i gilydd er mwyn datblygu a meithrin talent ysgrifennu newydd gan greu rhaglenni gwahanol i'r ddau gyfrwng fel ei gilydd, ac adloniant difyr yn y Gymraeg.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys S4C, Gwawr Martha Lloyd, ei bod yn hyderus y bydd y cydweithredu creadigol yn dwyn ffrwyth i wylwyr S4C a gwrandawyr 主播大秀 Radio Cymru.

"Mae'n gyffrous i weld gwaith S4C a 主播大秀 Cymru ar y cyd yn dwyn ffrwyth gyda darlledu Portors.听 Rydyn ni bob amser yn chwilio am syniadau cryf a sgriptiau graenus i ddatblygu rhaglenni ar gyfer S4C ac yn hynny o beth, rydyn ni'n rhannu her gyda 主播大秀 Radio Cymru.听 Bydd datblygu awduron sy'n gallu cynhyrchu gwaith o safon uchel o fantais i ni gyd yn y pen draw.

"Dwi'n ffyddiog y bydd y cydweithio yn fodd i greu mwy o gyfleoedd i awduron ac yn ffordd o gynnig dewis eang o ddram芒u a chomed茂au i'r gwylwyr a'r gwrandawyr yn y dyfodol."

Meddai Golygydd 主播大秀 Radio Cymru, Lowri Rhys Davies. "Rwy'n falch iawn bod 主播大秀 Radio Cymru ac S4C yn cydweithio i ddatblygu talent ysgrifennu - i'r ddau gyfrwng - fel hyn.听 Hon ydi'r enghraifft gyntaf o gydweithredu o'r fath rhyngom a dwi'n siwr y bydd digonedd o gynnyrch yn y dyfodol i ddifyrru a diddori cynulleidfa'r ddau ddarlledwr."

Bydd mwy o fanylion am y prosiect, gan gynnwys sut i gynnig syniadau neu sgriptiau, yn dilyn dros y misoedd nesaf.

Darlledir y ddrama Portars am 6.00pm, nos Wener, 21 Medi ar 主播大秀 Radio Cymru, gydag ail ddarllediad am 12.00pm ddydd Sadwrn, 22 Medi.

Pigion i ddysgwyr: 19 Medi 2012

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Pigion Pigion | 14:07, Dydd Mercher, 19 Medi 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod

Dewi Llwyd yn holi Betsan Llwyd

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 16:54, Dydd Mawrth, 18 Medi 2012

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei phenblwydd yr wythnos hon Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws - yr actores Betsan Llwyd oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul 16.09.12

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit 主播大秀 Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Pigion Radio Cymru i ddysgwyr - 11 Medi 2012

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Pigion Pigion | 11:05, Dydd Mawrth, 11 Medi 2012

Sylwadau (0)

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Darllen gweddill y cofnod

Dewi Llwyd yn holi Felix Aubel

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 10:29, Dydd Sul, 9 Medi 2012

Sylwadau (0)

Y gwleidydd Ceidwadol, ac un o weinidogion yr Annibynwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin Y Parchedig Ddr Felix Aubel oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul Medi'r 9fed.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit 主播大秀 Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Dewi Llwyd yn holi Alun Elidyr

颁补迟别驳辞谤茂补耻:

Dewi Llwyd Dewi Llwyd | 11:28, Dydd Sul, 2 Medi 2012

Sylwadau (0)

Cyn dathlu ei benblwydd yr wythnos hon yr amaethwr a'r cyflwynydd Alun Elidyr oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul 02.09.12.

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit 主播大秀 Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.