Main content

Cytundeb newydd Giggs

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dros ugain mlynedd yn 么l pan oeddwn yn hyfforddi t卯m ysgolion Cymru o dan 18 oed., cefais wybod am chwaraewr addawol a oedd yn chwarae i d卯m ieuenctid Manchester United.

Robbie Savage, a oedd yn aelod o'r t卯m ysgolion yma, ac a oedd hefyd gyda Manchester United yr adeg honno ddywedodd y stori.

Y bachgen addawol oedd Ryan Giggs - "Does neb wedi clywed amdano ar hyn o bryd ac Alex Ferguson yn cadw'n ddistaw" oedd y neges gan Robbie.

Wel erbyn heddiw, mae'r dyn ifanc yma wedi gwireddu proffwyd Robbie Savage ac yr wythnos yma, bydd Ryan Giggs yn cyrraedd carreg filltir go arbennig, pan fydd yn chwarae ei filfed gem beldroed proffesiynol.

Gwnaethpwyd hyn yn bennaf wrth chwarae dros Manchester United, ond hefyd mae chwarae 64 o weithiau i d卯m cenedlaethol Cymru a 4 i d卯m GB yn y gemau Olympaidd y llynedd yn cael eu cyfrif.

Gem broffesiynol cyntaf y Cymro oedd ar Fawrth 2, 1991 i United yn erbyn Everton ac ers hynny mae wedi chwarae 612 yn yr Uwchgynghrair gan gynnwys (100 fel eilydd), 40 yn yr hen Adran Gyntaf, 73 o gemau yng nghwpan Lloegr, 149 yng nghystadlaethau Ewropeaidd, a 18 o gemau eraill megis Tarian Gymunedol y F.A. Mae wedi sgorio 163 o goliau iddyn nhw hefyd.

Pan sgoriodd i United yn erbyn Everton ar Chwefror 10fed, llwyddodd i sicrhau ei fod wedi sgorio ym mhob un o'r tymhorau ers sefydlu'r Uwchgynghrair - 21 tymor, yn ogystal 芒'r ddau dymor blaenorol yn yr hen Adran Un.

Sut mae hyn yn cymharu 芒 gyrfa rhai eraill sydd wedi chwarae am gyfnod hir?
Mae'r golwyr Peter Shilton, Pat Jennings, David Seaman, a Ray Clemence wedi chwarae dros fil o gemau.

Chwaraeodd yr amddiffynnwr Eidaleg, Paolo Maldini, hefyd am gyfnod tebyg i A.C.Milan, ac mae Pele (sydd hefyd wedi sgorio dros 1000 o goliau), a gwr arall o Frasil - Roberto Carlos (gynt o Real Madrid) - hefyd wedi chware dros fil o gemau.

Llwyddodd Teddy Sheringham i chwarae hyd at 42 oed, ond Alessandro Costacurta ydi'r chwaraewr hynaf a fu yng Nghynghrair Pencampwyr Ewrop pan oedd yn 40 mlynedd a 40 dydd oed. Chwaraeodd Sir Stanley Matthews am 33 o flynyddoedd cyn rhoi'r ffidil yn y to pan yn 50, a daeth gyrfa un arall o Frasil, Romario, i ben pan oedd yn 43.

Yr wythnos ddiwethaf fe arwyddodd Giggs gytundeb newydd gyda Manchester United am flwyddyn arall , a bydd hyn yn sicrhau ei fod ar gael I chwarae iddynt ac yntau dros ei 40 oed.

Bydd dim syndod os na fydd Ryan Giggs yn gosod meini llwyddiant newydd yn y dyfodol agos.

Mwy o negeseuon

Nesaf