Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Ionawr 27, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'chiaith.

Rhaglen Dylan Jones - Monte Carlo

y gantorest a'r cyflwynydd - the singer and presenter
pencampwriaeth - championship
ymysg - amongst
ar ben arall - on the other end
wsti be - you know
cynnig - offer
cychwyn - start
seremoni agoriadol - opening ceremony
anhygoel - incredible
glawio'n drwm - raining heavily

...y gantores a'r cyflwynydd Elin Fflur yn Monte Carlo o bob man! Dw i'n siwr eich bod wedi clywed Elin ar Radio Cymru sawl tro a hefyd wedi ei gweld fel cyflwynydd ar S4C. Ym Monte Carlo wrth gwrs mae y ras geir enwog sef Pencampwriaeth Rali鈥檙 Byd. Roedd Elin yn sgwrsio efo Dylan Jones am y seremoni agoriadol, ond nid fel cyflwynydd ar ran S4C oedd Elin yno ond fel cantores. Dyma hi'n dweud yr hanes...


Bore Cothi - Cwsg

dihuno - deffro
pwnc trafod - topic of debate
rhaglen ddogfen - documentary
anadlu - to breathe
cyfrinach - secret
cyn lleied - so little
hanner ein hoes - half our life
difyr - diddorol
gorffwys - rest
dim co(f) - no memory

Gwych ynde, Elin Fflur o Ynys M么n yn canu o flaen s锚r Hollywood. Da iawn hi, fedra i ddim meddwl am neb gwell i wneud hynny. Ydach chi'n cael trafferth cysgu? Os ydach chi, gwrandewch yn ofalus ar yr eitem nesa ma. Dr Harri Pritchard fuodd yn trafod cwsg efo Shan Cothi ac yn son yn arbennig am fathau gwahanol o gwsg


Cofio - Anne Frank


y fersiwn gyflawn - the complete version
wedi ei olygu - edited
goroesi'r rhyfel - survived the war
yn awyddus i gyhoeddi - eager to publish
deffroad rhywiol - sexual awakening
fersiwn diwygiedig - revised version
dirgel - hidden
y gair allweddol - the key word
gwendidau - weaknesses
yn glos - tightly knit

Difyr ynde? Mae na fwy i gwsg nac oedden ni'n feddwl yn does? Awn ni i gyfeririad hollol wahanol rwan. Ar Cofio yr wythnos diwetha mi glywon ni'r nofelydd Eigra Lewis Roberts yn s么n am y gwaith o gyfieithu dyddiadur enwog Anne Frank i鈥檙 Gymraeg. Cafodd y sgwrs ei recordio yn wreiddiol ym Mil Naw Naw Saith ar y rhaglen "Argraff". Elin Mair oedd yn holi Eigra a dyma i chi flas ar y sgwrs


Dewi Llwyd ar fore Sul - Bethan Gwanas


hunangyflogedig - self employed
r么n i angen pres - I needed money
dirwasgiad - recession
yn hurt braidd - rather stupid
argraffiad - edition
cenhedlaeth - generation
rhoi cynnig arni - give it a go
ysgoloriaeth - scholarship
sioe gerdd - musical
torri calonnau - braking hearts

Hanes cyfieithu dyddiadur Anne Frank i鈥檙 Gymraeg yn fan'na gan y nofelydd Eigra Lewis Roberts. Ac at awdures arall yr awn ni am y clip olaf. Dw i'n siwr bod llawer ohonoch chi wedi darllen nofelau Bethan Gwanas. Hi oedd gwestai penblwydd Dewi Llwyd dydd Sul diwetha. Mae hi wedi ysgrifennu sawl nofel i ddarllenwyr iaith gynta, ond mae hi hefyd wedi sgwennu nifer o lyfrau ar gyfer dysgwyr. Faint ohonoch chi tybed sydd wedi bod yn dilyn helyntion Blodwen Jones? Wel, mi gawn ni glywed gan Bethan Gwanas rwan am y cam nesa ym mywyd Blodwen...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Lansio Cystadleuaeth Newydd Brwydr Y Bandiau

Nesaf

Geraint Lovgreen ar Enw'r G芒n