Main content

Carfan Academiau Cymru a Cwpan Lloegr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

D鈥檕edd yna fawr o syndod yng ngemau'r bedwaredd rownd yng Nghwpan Lloegr y penwythnos diwethaf ac mae 'n debyg i mi weld y g锚m fwyaf cyffrous wrth i'r deiliad, Wigan guro Crystal Palace o鈥檙 Uwch gynghrair.

Tybed a all Wigan ail adrodd eu llwyddiant yn y bumed rownd gan mai taith i Gaerdydd sydd o'u blaenau yn y bumed rownd? Synnwn i ddim!

Tydi鈥檙 ddau d卯m erioed wedi cyfarfod yn y Gwpan ond dros un ar hugain o gemau cynghrair yng Nghaerdydd, yn adrannau tri, dau a鈥檙 Bencampwriaeth, mae t卯m y brif ddinas wedi ennill tair, Wigan ennill dwy, ac mae yna chwe gem arall wedi gorffen yn gyfartal. Rwy'n eithaf ffyddiog mai agos fydd y g锚m yma hefyd.

Gem llawer mwy anodd i Abertawe sydd yn gorfod mynd i Lannau Merswy i gystadlu yn erbyn un o hoff dimau ddilynwyr p锚l droed gogledd Cymru, sef Everton. Everton wrth gwrs o dan reolaeth cyn reolwr yr Elyrch, Roberto Martinez, a鈥檙 g诺r sydd imi yn gyfrifol am sefydlu鈥檙 patrwm presennol sydd gan Abertawe o chwarae. Gem ddiddorol, sydd wedi gweld Everton dros y blynyddoedd yn curo Abertawe bedair gwaith a dod yn gyfartal ar bedwar achlysur arall. Dyma g锚m nad ydi鈥檙 Elyrch erioed wedi ei hennill, felly cyfle iddynt greu hanes ar Barc Goodison cyn hir. Ond, a chadw at y presennol, gem ydi hon a wel Everton sydd a'u llygaid ar gyrraedd safleoedd cymhwyso ar gyfer Ewrop, yn erbyn Abertawe sydd a'u blaenoriaeth ar sicrhau cadw eu lle yn yr Uwch gynghrair y tymor nesaf.

Yn y cyfamser bydd timau Cymru yn cystadlu ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru gyda鈥檙 g锚m rhwng Airbus a Bangor yn tynnu fy sylw. Hwyrach fod canlyniadau Bangor ychydig yn anwadal eleni ond dyma鈥檙 math o d卯m a allasai wneud yn dda mewn gem Gwpan.

Mae Airbus eu hunain wedi prysur osod safonau yn Uwch gynghrair Cymru, ac yn cystadlu am y brig yn erbyn y Seintiau Newydd. Tra mae t卯m y Maes Awyr wedi sicrhau gwasanaethau chwaraewyr o Loegr i godi safonau, mae sylw haeddiannol i'w chwaraewyr ifanc hefyd gyda phedwar ohonynt yng ngharaf谩n Academ茂au timau Cymru o dan 18 oed i chwarae yng Ngweriniaeth Iwerddon mewn dwy g锚m yn ystod mis Chwefror.

Mae tri ohonynt, sef Aaron Hassal, Myles Hart a Zyaac Edwards eisoes wedi ymddangos i'r t卯m cyntaf yn Uwch gynghrair Corbett Sports Cymru yn barod. Y pedwerydd aelod o鈥檙 chwaraewyr rhyngwladol yma ydi brawd Zyaac sef Noah Edwards.

Ond tra mae Airbus yn llawn balchder o gynhwysiant y pedwar yma, mae Bangor hefyd gyda chynrychiolaeth o fewn y garfan ryngwladol. Mae Caio Hywel, a Sam Faulkner hefyd wedi eu cynnwys yng ngharfan Academ茂au Cymru ar gyfer y gemau a gynhelir yn Waterford a Tramore.

Mae datblygiad cyffrous wedi digwydd o fewn gwella safonau chwaraewyr ifanc o fewn Cymru yn ddiweddar.

D鈥檕edd dim golwg o'r math yma o ddarpariaeth yn fy nyddiau i fel rheolwr, a d鈥檕es dim amheuaeth mai dyma鈥檙 math o brofiadau gwerthfawr sydd ei angen ar ein chwaraewyr ifanc os am symud ymlaen i gyrraedd eu llawn botensial.

Pob hwyl iddynt yn erbyn Iwerddon ac yn yr hir dymor.

Edrychwn ymlaen hefyd ar gyfer y ddwy g锚m i Gaerdydd ac Abertawe yng Nghwpan Lloegr .

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf