Be ydi gwerth traddodiad yn y byd pêl-droed?
Fawr o ddim erbyn heddiw mae’n ymddangos!
Ymddengys fod clwb pêl-droed Barcelona wedi penderfynu newid canrif o draddodiad wrth gyhoeddi y bydd yna newid yn nelwedd eu crys wrth benderfynu mai cylchoedd coch a glas, yn hytrach na stribedi fydd i'w gweld yn y dyfodol.
A hyn ar ôl 115 o flynyddoedd yn gwisgo crysau (heb hysbyseb) gyda’r stribedi enwog coch a glas sy mor adnabyddus i bawb?
Pam felly?
Marchnata.
Am €150 miliwn mae ‘r clwb, wedi penderfynu newid cwrs hanes a chario enw noddwr ar flaen y crys.
Qatar Foundation bydd yr enw i'w weld, am dair blynedd , ond mae’n debygol mai Qatar Airways fydd yr enw yn dilyn hyn.
Bydd ar Airways ar enwau'r seddau o gwmpas y Camp Nou hefyd
Y son draw yng Nghatalwnia ydi y bydd y llywydd, Josep Bartomeu, yn debygol iawn o golli ei swydd pan ddaw etholiadau ar gyfer dewis y llywydd nesaf (y drefn ym Marcelona ydi ethol drwy aelodau’r clwb).
Ymddengys mai dim ond un peth fyddai angen i unrhyw ymgeisydd ei ddweud - mi roi’r stribedi yn ôl i chi!
Adlais hwyrach yma o benderfyniad Caerdydd o dan Vincent Tan i newid lliw'r crys o las i goch? Ond nid cael ei ethol gan aelodau o’r clwb mae Mr Tan!
Ymddengys hefyd y bydd y nawdd yma ym Marcelona yn codi incwm y clwb yn sylweddol, o €55 miliwn y flwyddyn i €150 miliwn!
Felly tipyn o gylchdro ym Marcelona er mai crys hanner coch a hanner glas oedd yr un cyntaf am dymor, a chafwyd yr un crys yn nhymor 2009 pan enillwyd Cynghrair Pencampwyr Ewrop.
Fodd bynnag, tydi codi nyth cacwn ynglŷn â chrysau yn ddim byd newydd.
Gwisgodd Coventry City grys gyda hysbyseb arno yn nhymhorau 1981-83 ond bu rhaid newid i grys heb hysbyseb arno pan oeddynt ar y teledu.
Newidiodd Manchester United eu crysau (llwyd) yn ystod hanner amser mewn gem oddi cartref yn Southampton yn 1996 gan mai esgus y chwaraewyr nad oeddynt yn perfformio’n dda oedd nad oeddynt yn gweld ei gilydd yn glir o dan y llif oleuadau.
Cododd Tottenham wrychyn eu cefnogwyr wrth gynnwys y lliw coch (fel rhan o logo'r noddwr) ar hysbysiad ar y crys yn 2002-6 (coch ydi lliw eu cymdogion, Arsenal!); ac fe ymatebodd clwb Southampton i brotest eu cefnogwyr wrth ddychwelyd yn ôl i grysau traddodiadol stribedi ar ôl dwy flynedd mewn crysau coch.
Ac yna fe geir Caerdydd!
Ond dyna hen ddigon gen i Tan y tro nesaf!