Main content

Blog cefn lwyfan Nia - dydd Iau

Nia Lloyd Jones

Gohebydd Radio Cymru

Erbyn hyn 'da ni wedi cyrraedd oedran ysgolion uwchradd ac un gafodd ddiwrnod llwyddiannus iawn oedd Charlie Lovell-Jones - gan ennill yr unawd llinynnol, unawd piano a'r ensemble hefyd!

Charlie Lovell-Jones gyda Heledd Gwynant a Gwenno Morgan

Dyma chi unawdydd o'i gorun i'w sawdl - sydd yn ymarfer yn ddyddiol am o leiaf dair awr!听

Rhys Meilyr, Beca Fflur Williams a Celyn Llwyd Cartwright oedd yn cystadlu ar yr unawd cerdd dant, a Rhys ddaeth i'r brig heddiw.

Mi fydd y tri o bosib yn troi eu golygon at yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych rwan, ac mae Celyn yn lwcus iawn gan ei bod hi yn byw ar draws y cae bron i'r Maes!听 Felly 'dw i wedi gofyn am wely a brecwast yno am yr wythnos!

Roedd Rhys Meilyr eisoes wedi ennill yr unawd alaw werin hefyd, ac mi roedd o n么l ar y llwyfan ar gyfer yr unawd bechgyn - hefo Tomos Salmon a Dafydd Jones.

Rhys Meilir (canol) gyda Tomos Salmon a Dafydd Jones

Mae Dafydd hefyd yn ddyn sioe - ac yn hoff o arddangos ei wartheg holstein.听A thra mae o lawr yn yr Eisteddfod mae o'n gobeithio bod ei frawd yn cadw llygad arnyn nhw.

Dwy chwaer enillodd y ddeuawd sef Erin ac Elan. Erin ydy'r chwaer fach ac mae'n debyg mai hi ydy'r bos!!

Meryl Katrina Jones enillodd Dlws John a Ceridwen Hughes eleni, a hynny yn gydnabyddiaeth am ei gwaith diflino gyda nifer o fudiadau a chlybiau听megis Clwb Ffermwyr Abernant, Aelwyd Hafodwennog ac Ysgol Gynradd Cynwyl Elfed.听

Meryl Katrina Jones oedd enillydd Tlws John a Ceridwen Hughes am ei gwaith ym myd y ddawns

Dynes y cefndir ydy Meryl fel arfer, ond roedd hi'n w锚n o glust i glust ar y llwyfan wrth iddi dderbyn y fedal hardd.

Ac i gloi, llongyfarchiadau i Sioned Llywelyn ar ennill yr unawd o sioe gerdd. Merch leol ydy Sioned, ac yn ogystal ag ennill y wobr mae hi hefyd yn cael mynd draw i Disneyland Paris ym mis Mawrth!

Nol eto fory...

  • I weld holl ganlyniadau'r Eisteddfod
  • I ddarllen am straeon y dydd ar y maes

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 30 Mai 2013

Nesaf