Gan ei bod yn drichanmlwyddiant geni Hywel Harris, tad Anghydffurfiaeth yng Nghymru, waeth ichi ddweud, ac un o'r Cymry mwyaf dylanwadol fu erioed, roedd hi'n ddyletswydd arnaf ddilyn OM i gartref y dyn, .听
Yma y sefydlodd Harris ei ashram anghydffurfiol ryfedd yn y 18fed ganrif, a hel ei 'Deulu' o'i amgylch. Cefais hanes y lle gan un oedd yn y Coleg efo fi, ond sydd bellach yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru, y Parch. Meirion Morris. A chefais wybod sut le ydi Trefeca i fyw ynddo heddiw gan y Warden, Mair Jones o Groesoswallt.
Coleg Trefeca, 1892
Doedd Mair a Meirion ddim yn canmol rhyw lawer ar ysgrif OM, a hynny, efallai, am fod mwy o le ynddi i benillion Williams Pantycelyn nag i hanes Hywel Harris, a'r penillion hynny yn eithaf beirniadol mewn gwirionedd o'r Diwygiwr mawr - mi aeth 'oddi ar y r锚ls' yng ngolwg llawer.
Ond daeth arnaf i awydd aros yn Nhrefeca, fel y byddai'r hen feirdd gynt yn mynd i aros i fynachlogydd yn y diwedd...