Main content

Blog Ar y Marc: Rheol Newydd Camsefyll

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Wyddoch chi fod yna ddehongliad newydd i鈥檙 rheol sy鈥檔 ymwneud a chamsefyll y tymor yma?

Ceisio gwell esboniad ar bryd neu sut mae chwaraewr yn amharu ar y chwarae sydd y tu 么l i鈥檙 newid. Yn y gorffennol, roedd chwaraewr a oedd mewn safle camsefyll, a hwyrach yn symud ei gorff i wrthdynnu sylw鈥檙 gwrthwynebwr, yn cael ei ystyried fel amhariad ar rediad y g锚m. Erbyn heddiw, dim ond pan mae鈥檙 chwaraewr yna yn symud am y b锚l, neu yn rhoi pwysau ar y gwrthwynebwyr, y dylai鈥檙 dyfarnwr neu ei gynorthwywr ystyried fod hyn yn weithred o gamsefyll.

Mae hyn yn bell ers y chwedegau pan ddywedodd y diweddar Danny Blanchflower, Capten Tottenham Hotspurs a Gogledd Iwerddon, na ddylai unrhyw chwaraewr fod ar y cae os nad yw yn ceisio amharu rhywsut neu鈥檌 gilydd ar y gwrthwynebwyr!

Mi es draw i Brestatyn bnawn Sadwrn i weld a oedd y newid yma yn cael effaith amlwg ar eu gem yn erbyn Cei Conna. Yn syml, yr ateb oedd na.

Roedd dulliau chwarae'r ddau d卯m yn eithaf uniongyrchol, a marcio gwrthwynebwyr yn weddol hawdd yn sgil diffyg hyblygrwydd symudiadau cyfrwys oddi ar y bel.

Fodd bynnag, ar ddau achlysur, sylwais fod y dyfarnwr wedi atal chwibanu (mater o eiliad neu ddwy) wrth iddo aros i edrych os oedd yr ymosodwr gerllaw'r postyn pellaf am wneud ymdrech i benio鈥檙 croesiad a ddaeth i'w gyfeiriad.

Cyn gynted ac y gwnaeth yr ymosodwr neidio am y bel, neu ei phenio, fe chwythwyd y chwiban am gamsefyll. Gwelwyd dim enghraifft o unrhyw chwaraewr yn ceisio amharu ar olwg ei wrthwynebwyr o鈥檙 bel, nac yn ceisio gwrthdynnu sylw unrhyw wrthwynebwr.

Serch hynny, roedd yna agwedd arall, a oeddwn yn eu hystyried fel rhywbeth newydd i Uwch Gynghrair Corbett Sports Cymru, yn amlwg o fewn y g锚m.

Yn yr hanner cyntaf, roedd yna nifer o chwaraewyr yn rhy barod i redeg at y dyfarnwr, neu ei gynorthwywyr i ddadlau yn erbyn penderfyniadau. Ond gynted ac y digwyddodd hyn yn aml, a nifer o chwaraewyr yn rhedeg at un o'r cynorthwywyr, dangosodd y dyfarnwr Mark Whitby y cerdyn melyn. Ni welwyd unrhyw ddadlau na chwyno eithafol gan unrhyw chwaraewr am weddill y g锚m.

Da oedd gweld agwedd gadarnhaol y dyfarnwr yn rhoi terfyn ar y dadlau yn yr achos yma, a rhoi neges glir na fyddai dadlau ffyrnig yn cael ei oddef. Rhywbeth mi dybiwn y gallai nifer o ddyfarnwyr yn Uwch Gynghrair Lloegr ddysgu a鈥檌 efelychu.

Prynhawn diddorol gyda Chei Conna yn ennill o ddwy g么l i un a tharo Prestatyn oddi ar frig y tabl. Cafwyd digon o dystiolaeth hefyd i ofyn a fydd Prestatyn unwaith eto yn dangos anghysondeb dros y tymor (fel y llynedd)? Rhywbeth i gadw llygad arno dros yr wythnosau nesaf.

Mwy o negeseuon

Nesaf