Main content

Dyfodol addawol i dimau Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn sgil llwyddiant rhyngwladol rhaid dysgu a dod i arfer nad gemau cyfeillgar mae Cymru yn eu chwarae mwyach ond gemau paratoadol ar gyfer darparu ar gyfer Ewro 2016 yr haf nesaf. Hwyrach nad oedd Aaron Ramsey na Gareth Bale ar gael yn erbyn yr Iseldiroedd yr wythnos diwethaf, ond rhoddodd eu habsenoldeb gyfle i chwaraewyr nad sydd wedi cael cymaint o siawns yn y gemau diweddar, i ddangos sut y gallant ffitio i mewn a chyfrannu i ddull Cymru o chwarae.

 

Hwyrach mai un o uchafbwyntiau’r noson yn y cyd-destun yma oedd gweld y golwr Owain Fôn Williams yn dod ar y cae yn yr ail hanner am ei ymddangosiad cyntaf dros ei wlad, a hyn ar ôl bod yn eilydd am naw gem ar hugain dros gyfnod o chwe blynedd. Mae hyn ynddo'i hun yn enghraifft o'r  ysbryd cefnogol sydd ymysg y tîm ac sydd wedi cyfrannu cymaint tuag at y cyfeillgarwch sydd wedi codi ymysg y chwaraewyr.

 

Cap cyntaf hefyd i Adam Henley a da hefyd oedd gweld cyfleodd i Paul Dummett yn ogystal ag i Emyr Huws a George Williams, a dangosodd Tom Lawrence y gallai gynnig rhywbeth amgen wrth ymosod. Tra roedd nifer yn rhyw amau pa mor dda a fyddai Cymru heb Bale a Ramsey, yr hyn a ddaeth yn eithaf amlwg, yn fy marn i, oedd nad oedd yr amddiffyn yn edrych llawn mor gyfforddus heb arweiniad Ashley Williams, yn yr ail hanner.

 

Fodd bynnag, mae’r cyfleodd a roddwyd i chwaraewyr nad sydd wedi cael cymaint o sylw yn ddiweddar yn profi fod dilyniant a pharhad o fewn y garfan yn bwysig. Mae’r darlun ehangach yn dangos inni fod cynlluniau datblygiadol y gymdeithas yn dwyn ffrwyth yn effeithiol wrth i’r tîm o dan un ar bymtheg oed ennill tarian y Victory Shield am yr ail dymor yn olynol yn ddiweddar. Er colli'r gêm agoriadol yn erbyn yr Alban, roedd  buddugoliaethau dros Weriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn ddigon i sicrhau fod y darian yn aros yng Nghymru am flwyddyn arall. A hyn ar ôl i Gymru aros am chwe deg chwech o flynyddoedd i ail ennill y darian.

 

Ond tydi’r llwyddiant datblygiadol ddim yn gorffen  yma. Mae’r tîm o dan un ar hugain oed hefyd yn brysur gwneud ei farc, tra’n cystadlu yn y gemau rhagbrofol ar gyfer ffeinals Euro (o dan 21)  2017 . Er mai gem gyfartal  a gafwyd yn erbyn Rwmania yn Wrecsam nos Fawrth diwethaf, mae Cymru yn parhau ar frig Grwp 5, wedi ennill tair a dod yn gyfartal ddwy waith, gyda’r gem nesaf oddi cartref ym Mwlgaria ym mis Mawrth.

 

Rwyf eisoes wedi cyfeirio am y ffordd mae ein dyfarnwyr ifanc addawol yn cael y cyfleoedd drwy UEFA i ddatblygu ar lefel rhyngwladol, ond drwy edrych ar y darlun cyflawn, sef datblygiad ein tîm cenedlaethol llawn a’r timau o dan 16 a 21, yn ogystal â'r camau diweddaraf i wella darpariaeth a safon gem y merched, mae ffrwyth llafur Cymdeithas ac Ymddiriedolaeth pêl droed Cymru yn dechrau talu ar ei ganfed.

 

Diolch, nid yn unig i Chris Coleman am arwain ar y lefel uchaf ond hefyd i Osian Roberts yn ei swydd fel is reolwr ein tim llawn, ac yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Technegol Cymru yn ogystal a rheolwr y tîm o dan 16. Cydnabyddiaeth hefyd i Geraint Williams, rheolwr y tîm o dan 21, am sicrhau bod yna barhad a dilyniant o safon uchel ymysg chwaraewyr sydd yn cael ei ddatblygu'r dyddiau yma.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 17/11/2015

Nesaf

Wythnos ym Mywyd Radio Cymru