Main content

Seiniwch Yr Utgyrn Ar Gyfer Diwrnod Bandiau Pres 主播大秀 Radio Cymru!

Newyddion

Mae yna draddodiad hir a llewyrchus i fandiau pres yng Nghymru - ac mae bandiau o Gymru ymysg y gorau yn y byd ar hyn o bryd. Bydd 主播大秀 Radio Cymru yn cynnal diwrnod arbennig i ddathlu ein bandiau pres ddydd Gwener, Ebrill 11eg.

Bydd y diwrnod yn cychwyn - gyda ffanffer, wrth gwrs - wrth i hogia'r corn gwlad, Dewi Griffiths a Paul Hughes, ymuno gyda . Bydd Dylan hefyd yn gwahodd gwrandawyr ifanc i chwarae offeryn yn fyw ar yr awyr.

Bydd un o'r ffanfferwyr, Dewi Griffiths, hefyd yn ymuno hefo Band Pres Dinas Caerdydd Melingriffith - band hynaf Cymru yn 么l y s么n - i'w harwain wrth i rai o aelodau'r band berfformio'n fyw o gyntedd pencadlys 主播大秀 Cymru yng Nghaerdydd fore Gwener yn ystod rhaglen Dylan a hefyd yn nes ymlaen yn ystod y bore ar raglen .

Uchafbwynt y bore fydd Huw Chiswell yn ymuno gyda'r cyflwynydd Sh芒n Cothi ar ei rhaglen ac yn perfformio fersiwn o un o hoff ganeuon Cymru, Y Cwm, a enillodd cystadleuaeth C芒n i Gymru 30 mlynedd yn 么l ym 1984 - i gyfeiliant Band Pres Dinas Caerdydd Melingriffith.

Bydd Sh芒n Cothi hefyd yn edrych ymlaen at gystadleuaeth fawr Band Cymru 2014 fydd yn cael ei chynnal dros y penwythnos yn Theatr y Parc a'r D芒r, Treorci. Dyma gyfle i 12 o fandiau chwyth, pres a jazz gystadlu am wobr o 拢10,000, a bydd y gystadleuaeth yn cael ei darlledu mewn cyfres o raglenni ar S4C o ddiwedd Ebrill ymlaen.

Bydd thema'r bandiau pres a cherddoriaeth chwyth yn parhau yn y prynhawn gyda Tudur Owen - sgwn i pa ran fydd gan y thema i'w chwarae yn rhifyn dydd Gwener o'r opera sebon Bron Meirion? A bydd cyfle i glywed Seindorf Bres Prifysgol Bangor a'u fersiynau o ganeuon adnabyddus (o Bowie i Barbie Girl) yn ystod y rhaglen, a hefyd ar raglenni 听补 ar .

Bydd 主播大秀 Radio Cymru yn cynnal diwrnod i ddathlu bandiau pres ddydd Gwener, Ebrill 11eg.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dewis Hoff Fardd Cymru

Nesaf