Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Mawrth 18fed - Mawrth 25ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr


Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

 

Aled Hughes - Haf Thomas

cyflwr - condition
elusennol - charitable
yn werth eu gweld - worth seeing
cywrain ofnadwy - very skillful
amrywiaeth - a variety
cydymdeimlad - sympathy
yn fan'cw - over there
unigryw - unique
falch iawn - very pleased
nofio noddedig - sponsored swimming

"wrth i ddigwyddiadau gael eu cynnal ddydd Mawrth i nodi diwrnod Syndrom Downs mi gaethon ni ychydig o hanes Haf Thomas, merch o ardal Caernarfon sydd â'r cyflwr ac sydd yn gweithio i Gyngor Gwynedd. Dyma hi'n siarad am ei gwaith elusennol a'i diddordebau efo Aled Hughes..."

 

Geraint Lloyd - Yr het

gofalu - to look after
Addysg Gorfforol - Physical Education
Gwyddoniaeth Chwaraeon - Sport science
yr un tîm - the same team
cyfleusterau - facilities
galluogi - to enable
andros o dda - really good
hyfforddi - to coach
cysylltiad - connection
hen dro - what a shame

"Haf Thomas yn fan'na'n rhannu ychydig o'i hanes efo Aled Hughes. Mae het Geraint Lloyd yn cael crwydo o un pen i Gymru i'r llall ac yr wythnos diwetha roedd hi wedi cyrraedd Llanrwst yng Ngwynedd. Iago Davies sydd yn gofalu am yr het a nos Lun mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs fach efo fo. Mae Iago yn chwarae rygbi i lawer o glybiau fel y cawn ni glywed ac mae o'n ffrind da i Afon Bagshaw sydd yn chwarae i dîm cynta RGC..."

 

Bore Cothi - penblwydd arbennig

breuddwyd - dream
angerdd - passion
uchelgais - ambition
ail-ddarganfod - to rediscover
cyngor - advice
sylwebu - commentating
math o gymeriad - type of character
dadansoddi - to analize
canolbwyntio - to concentrate
boddhâd - pleasure

"Iago yn sôn am rygbi yn fan'na efo Geraint Lloyd ond dan ni'n mynd i newid siâp y bêl rwan. Gan fod gêm bwysig gan Gymru yng Nghwpan y byd penwythnos diwetha mi gafodd Shan Cothi sgwrs efo un o gyn-chwaraewyr tîm Cymru, Malcolm Allen. Byddwch chi'n clywed llais Malcolm yn aml iawn ar Radio Cymru ac ar S4C pan mae yna gêmau pwysig ymlaen, ond wythnos diwetha roedd o'n dathlu ei benblwydd yn 50. Buodd o'n edrych yn ôl ar ei yrfa bêl-droed efo Shan, a dyma i chi flas ar y sgwrs... "

 

Stiwdio - Oriel Tonnau

orielau celf - art galleries
addasu - to adapt
sefydlu - to establish
aelwyd - hearth
plethu - to blend
gwthio'r cwch i'r dwr - to launch
denu - to attract
gwerthfawrogi - to appreciate
hybu - to promote
TGAU - GCSE

"Malcolm Allen yn fan'na yn amlwg iawn yn falch o fod wedi gwisgo crys coch Cymru a gobeithio fod o ddim yn rhy siomedig efo perfformiad y tîm nos Wener ynde? Dan ni'n mynd i symud rwan o fyd chwaraeon i fyd celf. Yn Stiwdio dydd Mercher buodd Nia Roberts yn edrych ar sut mae orielau celf yn gorfod addasu i fedru bod yn fusnesau llwyddianus y dyddiau hyn. Mae Llio Meirion yn rhedeg Oriel Tonnau ym Mhwllheli a hi sydd yn siarad efo Nia yn y clip nesa ma..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf