Main content

Marwolaeth Nelson Mandela

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn sgil marwolaeth Nelson Mandela, hwyrach mai addas ydi ail gyhoeddi'r stori a ysgrifennais beth amser yn ôl am ddylanwad pêl droed ar ynys Robben gerllaw Cape Town.

Ceir yr hanes mewn llyfr o’r enw ‘Only Just a Game’ ( sydd hefyd wedi ei wneud yn ffilm o'r un enw) yn olrhain hanes effaith pêl droed ar y carcharorion hynny a gafodd eu cadw ar yr ynys o dan weinyddiaeth apartheid De Affrica yn y chwedegau.

Yma y cafodd Nelson Mandela ei garcharu a’i gadw ar wahân i bawb arall. Oherwydd hyn, ni chafodd Mandela'r profiad o fod yn aelod o Gymdeithas Bel droed Makana, sef yr un a sefydlwyd gan y carcharorion eu hunain i gynnal pel droed ar yr Ynys.

Mae’r llyfr a ysgrifennwyd gan Chuck Korr ( Americanwr o Brifysgol De Montfort yng Nghaerlyr) a Marvin Close, awdur a chefnogwr brwd o Glwb Bradford City yn amlinellu dylanwad ac effaith pel droed ar y gymdeithas gaeedig yma.

Er waethaf hunllefau'r bywyd ar yr Ynys, rhoddodd trefn ddemocrataidd pel droed elfennau o ryddid i’r carcharorion - rhywbeth nad oeddynt wedi ei brofi o dan drefn apartheid De Affrica.

Sefydlwyd wyth cynghrair o dan reolau FIFA er mwyn trefnu gemau ar gyfer mil a phedwar cant o garcharorion, a thrwy'r drefn yma rhoi iddynt yr ymdeimlad o ryddid, mynegiant, a chydraddoldeb nad oeddynt wedi eu profi ynghynt.

Yn wir cymaint oedd dylanwad y gêm ar rai ohonynt fel y daethant yn arweinwyr dylanwadol ar y gymdeithas gynhwysol a ddaethant i’w gynnal yn y De Africa newydd.

Mae’n werth i unrhyw gefnogwr pel droed ddarllen y llyfr yma, sydd yn dangos beth sydd yn bosibl drwy chwaraeon, a’r effaith y gall gael ar bob math o bobl o fewn bob math o sefyllfaoedd.

Mae pel droed Ynys Robben wedi gorchfygu pob math o anawsterau ac wedi cyfrannau tuag at y ddemocratiaeth newydd o fewn y wlad.

Y tu ôl i'r ddemocratiaeth yma a drechodd trefn hiliol yr apartheid, fe ddylwn gofio fod presenoldeb Mandela wedi bod yn allweddol fel arweinydd ysbrydol y pel droedwyr o fewn yr ynys.

Cofiwn fyth ei gyfraniad at sicrhau tegwch, ac am ddangos sut i barchu amrywiaeth o fewn pob cymdeithas ledled y byd.

Cwsg yn dawel Mandela dirion.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr - 03 Rhagfyr 2013

Nesaf

Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 11 Rhagfyr 2013