Main content

David Moyes - Oedd o’n syndod yn y diwedd?

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae’n ddyfyniad dwi wedi ei ddefnyddio mwy nac unwaith yng nghyd-destun pêl droed, ond ai'r dasg i reolwr nesaf Manchester United fydd nid o reidrwydd achub y clwb cymaint, ond gwneud y clwb yn werth ei achub unwaith eto.

Petaech wedi bod ar Barc Goodison brynhawn Sul, yn fe fyddwch yn deall y gosodiad yna. Doedd yna fawr o arweiniad, na hyblygrwydd, ychydig oedd yr awch a brwdfrydedd ar ôl ildio gôl, diffyg cyflymder a methiant yn gyfan gwbl i droi meddiant yn rhywbeth a fyddai yn bygwth y gwrthwynebwyr.

Ond tydi tranc Manchester United i mi, ddim wedi cychwyn dros nos. Ar ôl clywed yn y cyfryngau y byddai'r staff a oedd yn hyfforddi o dan arweinyddiaeth Syr Alex Ferguson yn colli eu swyddi, daeth yn dipyn o sioc o ddeall mai ddim ond y prif sgowt, Jim Lawlor a gafodd barhau yn ei swydd ar ôl apwyntio David Moyes fel rheolwr. Anodd oedd deall hyn gan mai dyma'r hyfforddwyr a roddodd y cymorth i Syr Alex gyflawni cymaint. Byddai hefyd wedi sicrhau cysondeb, parhad a dilyniant o fewn y clwb gan osod platfform o hygrededd a fyddai yn cynnal a rhoi cymorth i gyfnod newydd David Moyes.

I mi dyna ddechrau'r diwedd - a hynny cyn cychwyn!

Ceir pob math o feirniadaeth yn y cyfryngau’r wythnos yma. Perfformiadau tila'r tîm, y perchnogion ddim yn fodlon gwario ar chwaraewyr, newidiadau yn nhrefn yr ymarfer a'r paratoi, agwedd chwaraewyr, y perchnogion (y Glazers) wedi cael llond bol ond hwyrach ddim eto yn ffansio gwerthu'r job lot am ‘something i rywun’ ar hyn o bryd, Lerpwl yn gosod ei hunain yn ôl ar ben y glwyd a oedd Syr Alex wrth gyrraedd Old Trafford mor awyddus i'w tanseilio.

Yna gyda chyfranddaliadau'r clwb yn disgyn a’r farchnad Efrog Newydd, a’r perchnogion hwyrach yn gofidio fod eu poblogrwydd ar draws y byd a'r gallu i greu elw byd eang yn debygol o ddisgyn yn sgil perfformiadau, daeth awr y brenin newydd i ben.

Be nesaf? Wnâi ddim rhoi fy marn am yr olynydd, mae yna ddigon o rheini ar gael, ac mae’r enwau yn eithaf cyfarwydd erbyn hyn.

Beth bynnag oedd ffaeleddau David Moyes, gan gynnwys newid y tîm hyfforddi, a’r methiant ar y cae, y peth mae'n debyg iddo fod yn fwyaf euog ohono ydi nad Syr Alex Ferguson ydi ei enw!

Be nesa i Moyes?

Wrth ystyried mai dim ond un pwynt oddi ar y tri isaf yn yr Uwch gynghrair oedd Everton pan ymunodd a hwy, tybed a fyddai yn werth ei ystyried gan dimau sydd wedi brwydro i aros yn yr uwch gynghrair eleni.

Does dim angen i ni fynd yn bell i ystyried ble a pha dimau sydd yn y sefyllfa yna !!

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Ebrill 16, 2014

Nesaf

Diogelwch mewn gemau peldroed