Main content

Blog Ar y Marc - Pat Moran

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Faint ohonoch a welodd ffeinal y rygbi bnawn Sul rhwng timau o dan ugain oed Cymru a Lloegr?

Cyn ichi feddwl fy mod wedi dod yn rhyw feirniad ar bethau’r byd rygbi, meddyliwch eto.

Wnes i erioed feddwl y buaswn yn cael amser i drafod rygbi heb son am ysgrifennu amdano, ac na dydw’i ddim wedi cael tröedigaeth chwaith.

Ond tra mae Prestatyn, y Bala ac Airbus yn paratoi ar gyfer eu teithiau i Ewrop mae un chwaraewr peldroed fu yn serennu yn Uwchgynghrair beldroed Cymru, eisoes wedi ymddangos ar lwyfan rhyngwladol, a hynny mewn ffeinal.Ie, a phrynhawn Sul diwethaf oedd yr achlysur hwnnw wrth i dîm rygbi Cymru o dan ugain oed Lloegr yn ffeinal Chwpan y Byd i chwaraewyr iau.! Yn nyddiau cynnar Cynghrair Cenedlaethol Peldroed Cymru, roedd tîm Treffynnon, am dri thymor, yn cystadlu ymysg y gorau.

Gyda safle terfynol yn y Gynghrair o chweched a phumed yn y ddau dymor agoriadol, gwelwyd record ddiguro gemau cartref yn ymestyn am dros flwyddyn a hanner (record yn ôl pob son nas ragorwyd arno hyd heddiw gan unrhyw dim, heblaw'r Barri,- tybed a all unrhyw un wirio’r honiad yma?). Sail y rhediad rhagorol yma oedd chwaraewyr o safon uchel, ac un o rheini oedd y capten Pat Moran, myfyriwr y dyddiau hynny ym Mhrifysgol Lerpwl.

Arwyddodd Pat i mi ar ôl cyfnod o chwarae gyda Phrifysgol De Carolina yn yr Unol Daleithiau, a chwaraeodd mewn wyth deg naw o gemau i Dreffynnon - fel amddiffynnwr canol , neu angor canol cae , gan sgorio chwech gol. Cafodd hefyd y fraint o gael ei enwebu gan gylchgrawn World Soccer, yn nhîm gorau’r Cynghrair Cenedlaethol yn nhymor 1993/4. Graddiodd Pat a chafodd swydd fel ffisiotherapydd gyda chlwb enwog rygbi’r gynghrair, y Leeds Rhinos. Datblygodd i fod yn brif ffisiotherapydd i’r clwb, a dod yn rhan allweddol o lwyddiant y Rhinos, gan gynnwys ennill Pencampwriaeth Clybiau’r Byd yn 2005, rhywbeth a oedd yn bell iawn o fyd y cystadlu a ddaeth yn gyfarwydd ag o ar gaeau peldroed Cynghrair Cymru.

Symudodd Pat i fyw i Dde Cymru, pan gafodd swydd fel ffisiotherapydd i Phil Davies, gyda thîm rygbi rhanbarthol Scarlets Llanelli . Roedd Phil Davies, a fu’n rheoli tîm rygbi’r undeb Leeds, yn ymwybodol iawn o alluoedd ac enw da ffisiotherapydd y Rhinos, ac felly fe newidiwyd gyrfa a lleoliad. Erbyn heddiw, mae Pat wedi newid swydd eto, a chael ei benodi yn ffisiotherapydd i dîm rygbi Cymru o dan ugain oed. Henffych yr ymddangosiad yn y ffeinal y penwythnos diwethaf. Er i Darren Campbell, y rhedwr Olympaidd, chwarae tair gem ar ddeg dros Gwmbrân ynghanol y nawdegau, wn i ddim am unrhyw beldroediwr sydd heddiw ynghlwm a thîm rygbi’r undeb o fewn rhanbarthau Cymru na chwaith yn gweithio gydag un o dimau rhyngwladol yr Undeb.

Fel cyn golwr fe ddylwn ddangos parch i bobol sydd yn ennill eu bywoliaeth mewn gem sydd yn caniatáu llawio pêl yn swyddogol. Llongyfarchiadau i Pat dewin peldroed Treffynnon, sydd heddiw yn gwneud ei ran ymysg cewri chwedloniaeth y dyfodol ym myd byd rygbi yng Nghymru. Fel ma’ nhw’n ei ddweud yn y de “i fi wedi dwli, a wedech chi nawr,’this very minute’, ‘rown i wedi cael 'wonderful time' yn Uwchgynghrair Cymru gyda'n gilydd, ond erbyn heddiw mae’r cyflawniad a’r gamp wedi dod yn un fyd eang i Pat ; fab’ lus; tidy iawn, byt! “- da’de! – ie, ffyniant o Dreffynnon!

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 9

Nesaf

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 25 Mehefin 2013