Main content

Chwilio Am Hoff G芒n Gymraeg Y Genedl

Newyddion

Bydd 主播大秀 Radio Cymru yn gofyn i ymwelwyr â’r Eisteddfod Genedlaethol bleidleisio am eu hoff gân Gymraeg erioed wrth i’r orsaf baratoi ar gyfer #40MAWR - Siart Fawr yr Haf, fydd yn cael ei darlledu brynhawn Llun, G诺yl y Banc, Awst 31.

Y bleidlais fawr fydd un o’r gweithgareddau fydd yn denu pobl i Babell Radio Cymru ar y maes ym Meifod.

Y llynedd yn Llanelli cafodd dros 1,500 o bleidleisiau eu bwrw dros gannoedd o wahanol ganeuon, ac efallai nad oedd yn syndod mai anthem enwog Dafydd Iwan, Yma o Hyd, ddaeth i’r brig yn nhre’r Sosban.

Bydd Dafydd Iwan yn perfformio’r gân ac ambell i ffefryn arall ym Mhabell Radio Cymru ddydd Mawrth, Awst 4, am 1.30pm.

Dywedodd Dafydd: “Roedd yn bleser gweld Yma o Hyd ar frig Siart Fawr yr Haf y llynedd - a hefyd bod cymysgedd o ganeuon hen a newydd wedi’u dewis gan steddfodwyr Llanelli yn y 40 uchaf. Rwy’n edrych ymlaen i weld pa ganeuon fydd yn y siart eleni.”

Bydd cyfle i bobl ddewis hyd at dair o’u hoff ganeuon tra’n ymweld â phabell 主播大秀 Radio Cymru ar faes yr Eisteddfod drwy gydol yr wythnos. Ond nid dim ond ymwelwyr â’r Brifwyl fydd yn cael datgan eu dewisiadau - bydd cyfle i bawb arall ffonio 03703 500 600 (ni chodir mwy na chyfraddau rhifau daearyddol 01/02) a gadael negeseuon rhwng dydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod (Awst 1) a dydd Llun, Awst 24. .

Ymgyrch #40MAWR fydd un o brif weithgareddau Radio Cymru ar faes yr Eisteddfod eleni, ond mae arlwy llawn o weithgareddau eraill a pherfformiadau wedi’u trefnu yn ogystal:

• sesiynau arbennig gyda chyflwynwyr fel , , a
• darllediadau byw o gyda Garry Owen yn trafod rhai o bynciau llosg y dydd
• sesiynau gyda rhai o artistiaid gwych y cynllun
• stori i’r plant lleiaf yn gyda rhai o gyflwynwyr Cyw
• cyfle i weld weld sut i gael y gwasanaethau digidol diweddaraf yn Gymraeg gan 主播大秀 Cymru
• a chyfle i ennill gwobr wrth chwarae gêm arbennig iawn - Ceg Fawr Tommo

Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Fe fyddwn ni’n brysur yn darlledu o’r Eisteddfod drwy’r wythnos wrth gwrs ond mae’r Brifwyl hefyd yn gyfle anhepgor i ni gyfarfod â miloedd o’n gwrandawyr. Roedd Siart Fawr yr Haf y llynedd yn llwyddiannus iawn. Dyma raglen fwyaf poblogaidd y flwyddyn gyfan o ran gwrando arni eto. Roedd yna drawsdoriad gwych o ganeuon a bydd yn hynod o ddiddorol i weld pa mor wahanol fydd dewis y gwrandawyr eleni.”

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 27/07/2015

Nesaf

Uwch Gynghrair Cymru