Main content

Sioe gerdd yw'r byd pel-droed!

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mi es i weld sioe gerdd fy wyres yr wythnos yma. Cyfle i ddianc o fyd peldroed medda' nhw! Anghywir. O fewn pum munud, cafwyd can agoriadol y sioe - 鈥業 am Cannibal ! - ie, rhywbeth i gnoi cil oedd hwn i fod, ond allwn i ddim meddwl am rywbeth mwy danteithiol i dynnu fy sylw!

Tydi Luis Suarez druan ddim wedi bod ymhell o sylw unrhyw un yr wythnos yma, gyda j么cs diri amdano yn lledaenu bron yn ddyddiol.

A s么n am sioe gerdd, mae yna si ar led fod sioe gerdd newydd ar fin agor yn ardal Anfield o Lerpwl, gyda Luis ynserennu mewn cynhyrchiad brathog o 鈥楧ante鈥檚 Inferno鈥 tra bydd Brendon Rodgers yn portreadu cymeriad Virgil !

Os nad ydych yn deall cyd-destun y stori, yna dyma amlinelliad.

Hanes taith y bardd Dante trwy uffern ydi鈥檙 Inferno, gyda Dante yn creu pob math o drafferthion iddo鈥檌 hun drwy ei anallu i ddeall diwylliant anghyfarwydd. Daw'r Inferno i ddisgrifio cydnabyddiaeth Dante o bechod a chamweddau personol a sut i鈥檞 goresgyn. R么l Virgil ydi arwain Dante druan tuag at iachawdwriaeth, achubiaeth a maddeuant!

Ie, mae鈥檔 swnio yn debyg iawn i fywyd canibal y Kop y dyddiau yma!

Ond, tra mae sylw鈥檙 byd wedi bod ar Luis Suarez yn dilyn ei helynt yn erbyn Chelsea brynhawn Sul, chafwyd fawr ddim son am, na sylw i, berfformiad y Cymro Gareth Bale yn erbyn Manchester City rhyw awr ynghynt.

Gyda鈥檌 dim yn colli o un g么l i ddim a chwarter awr yn weddill, aeth Bale i droi cwrs y g锚m wyneb i waered. Llwyddodd i sgorio a gosod g么l arall ar bl芒t i sicrhau buddugoliaeth sydd yn cadw Tottenham ar eu taith tuag at gymhwyso ar gyfer Cynghrair Ewrop y tymor nesaf.

Os yw Suarez yn efelychutarw cynddeiriog o 诺r bonheddig yn mynd ati winedd a dannedd gan greu'r holl ffrio ffair, ffrost, ffrwst a ffrwgwd ni welir gan Bale ond sobrwydd mwynder a sirioldeb wrth ddangos perffeithrwydd mewndelfryd ymddygiad a ddylid pob chwaraewr ifanc ei efelychu ac anelu tuag ato.

Diolch i Elis Wynne am greu yr holl gymhariaethau. Dwi鈥檔 hollol argyhoeddedig mai'r Bardd Cwsg oedd y gohebydd peldroed cyntaf a fu erioed ac mai gweledigaeth cwrs yr Uwchgynghrair oedd gwir neges proffwydoliaethau Gweledigaethau y Bardd Cwsg!

Ond yn ol i鈥檙 presennol.

Mae Suarez a Bale wedi cael eu henwebu fel chwaraewyr y flwyddyn.

Suarez! Cimwch o gythraul yn rhuthro ac yn anrheithio ei wrthwynebwyr ?

Yntau Bale 鈥 鈥渦n mawr ei gymeriad鈥, 鈥渁 chario stamp pencampwr ,ar ei gem o hyd wna鈥檙 g诺r鈥 鈥 (diolch i Myrddin ap Dafydd am honna!)

Ond yn 么l at y sioe yna yn Anfield 鈥撯 mae eisiau dyn cymwys doeth, i drin creadur annoeth鈥 meddai Gwilym Deudraeth a hwyrach y dylwn hefyd roi sylw i eiriau Tegla Davies, gan addasu ei ddyfyniad drwy awgrymu, fel a wnaeth Virgil i Dante druan,mai 鈥渘id achub Suarez sydd eisiau... ond gwneud Suarez yn werth ei achub!鈥.

Diolch i鈥檙 drefn am lenyddiaeth broffwydol y Cymry hyddysg - mae鈥 nhw i gyd yn cyfrannu yn eu harddull unigryw, - cefnogwyr peldroed ydi nhw i gyd yn y b么n!

Mwy o negeseuon

Nesaf

Dau dim o Gymru yn Wembley