Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr Mehefin 18fed -23ain 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.



Lloches Ruth a Salah - Ffoaduriaid

rhaglen ddogfen - documentary
Lloches - Sanctuary
ffoaduriaid - refugees
gwirforddoli - volunteering
gwahôdd - to invite

"... hanes Ruth a Salah. Wythnos diwetha roedd hi’n wythnos ffoaduriaid, ac amser cinio ddydd Llun yn y rhaglen ddogfen 'Lloches Ruth a Salah', clywon ni hanes Ruth Gwilym Rassool a’i gwr Salah, dyn o Kurdistan yn wreiddiol ond sydd, fel Ruth, yn gweithio i Gyngor Ffoaduriad Cymru. Dyma'r ddau yn esbonio sut wnaethon nhw gwrdd â'i gilydd... "

Aled Hughes - Hir Ddydd Haf

Hirddydd Haf - Summer Solstice
siambr gladdu - burial chamber
amlinellu - outlined
peledrau'r haul - sun's rays
cyntedd - hallway
llwybr - path
o dan y ddaear - underground
haul crasboeth - baking hot sun
gwawrio - to dawn
coedwig - forest

"... Salah wedi dysgu Cymraeg yn wych yn tydy? Dydd Mercher, Mehefin 21 oedd hirddydd haf, sef diwrnod hira'r flwyddyn. Mae yna rywbeth arbennig iawn yn digwydd yn siambr gladdu Bryn Celli Ddu, ar Ynys Môn, bob blwyddyn ar y diwrnod arbennig hwn. Aeth Aled Hughes draw yno fore Mawrth a gofyn i’r archeolegydd Dr Ffion Reynolds, beth sy mor arbennig ynglyn ? Bryn Celli Ddu ar hirddydd Haf?"

Bore Cothi - Churchill

ara deg - very slow
arwynebol - superficial
anfaddeuol - unforgivable
anghyson - inconsistant
cyfaill mynwesol - close friend
cadfridog - general
twyllo - to cheat
o dan pwysau - under pressure
golygu - to edit
sdim dwywaith - no two ways

"Aled Hughes yn fan'na yn siarad efo Dr Ffion Reynolds am Fryn Celli Ddu a hirddydd Haf. Mae yna ffilm newydd yn y sinemau am Winston Churchill. Pwy gwell i sôn am y ffilm na'r hanesydd Dr Elin Jones? Oedd y ffilm wedi ei phlesio tybed?"

Rhys Mwyn - Ar Log

ffodus - lucky
cyfnewid diwylliant - a cultural exchange
gweddw - widow
poenydio - to torture
wedi gwirioni - really liked
sawl gwaith - several times
ffiniau - borders
cerddorion - musicians
reit gyffredin - quite common
llwyfan - stage

"Hmm, mae gen i deimlad nad oedd y ffilm Churchill wedi plesio Dr Elin Jones rhyw lawer..Roedd Rhys Mwyn ar ei raglen Nos Lun yn sgwrsio efo Dafydd a Gwyndaf Roberts o’r grwp gwerin Ar Log am eu teithiau tramor. Dyma i chi flas ar y sgwrs a stori ddiddorol iawn o daith y grwp i Chile ..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Lansio ail amserlen i 主播大秀 Radio Cymru

Nesaf

Rhanbarthau sefyll yn ddiogel - Yr Amwythig