Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.
Aled Hughes - Gwisg Tân
diffoddwr tân - fire fighter
trwchus - thick
her - a challenge
ty'd 'laen - come on
profiadol - experienced
dylunio - to design
defnydd - material
hanfodol - essential
cyfleuon - opportunities
atal - stopio
"oes yna ddyfodol i Aled Hughes fel diffoddwr tân tybed? Aeth Aled i orsaf dân Caernarfon ddydd Llun ac mi roddodd Gwyn Jones, sy'n gweithio yn yr orsaf, brawf iddo fo i weld pa mor sydyn oedd o’n gallu rhoi gwisg tân amdano. Y targed i Aled oedd rhoi'r wisg ymlaen mewn ugain eiliad...."
Tommo - Ymddeol
trosglwyddo'r awennau - handing it over
caws gafr - goats' cheese
amrywiaeth - variety
cael dy dwlu mas - (you) being thrown out
dwli - to really enjoy
bennu lan - to end up
anrhydedd - an honour
cefnogi - to support
gweld ei eisiau fe - missing it
ar gau - closed
Hmm, dylai Aled aros efo Radio Cymru dw i'n meddwl, tydy o ddim cweit yn Sam Tân nac ydy? Un sydd wedi cael sawl gyrfa wahanol ydy John Jones. Mae o nawr yn mynd i ymddeol ar ôl gweithio am nifer o flynyddoedd yn nhafarn Y Talardd yn Llanllwni, Sir Gaerfyrddin. Bydd John yn troglwyddo'r awenau i gwpwl ifanc, Nia a James, ond ddim cyn iddo fo gael parti mawr
Post Cyntaf - Rhodri Morgan
cyn Brif Weinidog - Ex-First Minister
teyrngedau lu - numerous tributes
ymgyrchu - campaigning
y ddadl - the debate
colled enfawr - a huge loss
tad gwleidyddol - political father figure
gwerthfawrogi - appreciate
gweinidog - minister
dyletswydd - responsibility/duty
cefnogaeth - support
"Dw i'n siwr bydd cwsmeriaid John yn ei golli'n fawr - mae'n dipyn o gymeriad tydy? Ond pob lwc i Nia a James wrth iddyn nhw gymryd drosodd. Wythnos diwetha daeth y newyddion bod cyn Brif Weinidog Cymru Rhodri Morgan wedi marw yn saithdeg saith mlwydd oed. Buodd yna deyrngedau lu iddo fo ar y Post Cyntaf bore Iau. Dyma i chi un ohonyn nhw gan Brif Weinidog presennol Cymru, Carwyn Jones ..."
Aled Hughes - Cwestiwn Elgan
llwyfan - stage
disgybl - pupil
deuthan ni - dweud wrthon ni
byd y bwystfilod - Monster World
wedi siomi - disappointed
awdures - author (female)
cysylltu - to contact
anturus a chyffrous - adventurous and exciting
hud a lledrith - magic
archebu - to order
"Teyrnged Carwyn Jones yn fan'na i gyn Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan bu farw'r wythnos diwetha. Bore Mawrth, mi gafodd Aled Hughes e-bost gan Elgan o ysgol Cerrigydrudion. Mi roedd ganddo fo broblem ac roedd o'n gobeithio basai Aled yn medru ei helpu. Bore Mercher mi ffoniodd Aled yr ysgol i gael gair efo Elgan... "
Bore Cothi - Brechdanau
bathu term - to coin a phrase
Clo Crog - a 'hanging' ending
tynnu sylw at - to draw attention to
Casgwent - Chepstow
dathlu - to celebrate
Prydeinig - British
ystadegau - statistics
dychmygu y domen - imagining the heap
tafell - slice
poblogaidd - popular
"Wel doedd gan Manon Steffan Ros ddim ateb i Elgan chwaith ond mi roedd ganddi ychydig o syniadau i fathu term newydd ar gyfer "cliffhanger" yn Gymraeg fel - clo clogwyn, clo syfrdan, clo Daniel Owen ac mi gafodd Elgan ddewis y gorau. Ei ddewis o oedd - clo Crog. Enw da ynde? Gobeithio bydd pobl yn dechrau ei ddefnyddio. Roedd hi'n wythnos y frechdan wythnos diwetha ac mi gafodd Sian Cothi sgwrs efo Gethin Evans a gofyn iddo fo be sy mor arbennig am y frechdan?"
Geraint Lloyd - Gwersi golff
awyr iach - fresh air
pêl fach wen - small white ball
brwyn - rush (vegetation)
andros o dda - really good
arbenigwyr - experts
gweddill - the rest
ambell un ohonon ni - one or two of us
taro - striking
cyhyrau - muscles
ail natur - second nature
"Shan a Gethin yn fan'na yn sgwrsio am y frechdan. Mae Elin Wiliam yn un o griw o ferched sydd wedi dechrau dysgu sut i chwarae golff yn y Bala. Mae nhw wedi cael dwy wers yn barod ac mae pedair arall ar ôl ar y cwrs chwe wythnos. Ond pam golff? Dyna oedd cwestiwn Geraint i Elin.."