Main content

Radio Cymru, Llais Cymru - blog gan Betsan Powys

Newyddion

Gynta'r Sgwrs a’r gwrando. Wedyn y dadansoddi a'r penderfynu. Nawr y gweithredu.

Gynta'r Sgwrs a'r gwrando. Wedyn y dadansoddi a'r penderfynu. Nawr y gweithredu.

Heddiw, fory ac am beth amser dwi’n amau, fe fyddwch chi, y rheiny sydd ag ots am ddyfodol Radio Cymru, yn trafod yr amserlen newydd.Ìý Fe fyddwch chi'n cael croeso i wneud hynny ar Radio Cymru ac yn canolbwyntio, mae’n siŵr, ar yr hyn fydd yn newid ar yr awyr. Mi fydd rhai yn croesawu ambell lais newydd, rhai'n gwaredu, rhai'n falch o weld rôl rhai lleisiau cyfarwydd yn newid, eraill yn gandryll ac yn gweld colli cyflwynwyr sy’n agos at eu calonnau.ÌýA gobeithio bydd rhai yn codi clust o’r newydd ac yn ystyried rhoi tro ar wrando ar Radio Cymru.Ìý

Fel Golygydd Radio Cymru, ga i bwysleisio un peth felly?

Yn ystod y Sgwrs fe glywes i sawl neges allweddol oedd yn mynd y tu hwnt i amserlen Radio Cymru. Roedden nhw mewn gwirionedd yn mynd y tu hwnt i leisiau a rhaglenni Radio Cymru hefyd, a’r feirniadaeth gyson bod ‘gormod o’r un peth’ ar yr orsaf. Roedd pobl yn awgrymu bod rhywbeth mwy sylfaenol wedi mynd ar goll yn y berthynas rhwng yr orsaf genedlaethol a'i chynulleidfa, a bod angen adfer y peth hwnnw.

Ar yr un pryd roedd miloedd o wrandawyr yn dal i drysori’r orsaf, yn byw a bod yng nghwmni Radio Cymru, yn dwli ar gyflwynwyr, a’r ffigyrau gwrando diweddaraf yn awgrymu tra bod lle mawr i wella, nad oedd angen panig chwaith.Ìý

Ond y gwir caled i ni, y criw sy’n gweithio i Radio Cymru, ei dderbyn yw bod yna ormod o bobol Radio Cymru yn teimlo nad nhw oedd piau'r cyfrwng erbyn hyn. Roedden nhw am i’r orsaf apelio’n ehangach, magu personoliaethau, cynnig cerddoriaeth dda a Chymraeg naturiol, y cwbwl ar orsaf genedlaethol, safonol, hyderus, nid un ranbarthol, fympwyol rywust.

Doedd Radio Cymru ddim i'w gweld a'i chlywed yn dod o gymunedau ar hyd a lled Cymru meddech chi, ddim cymaint ag yn y gorffennol beth bynnag. Lle roedd lleisiau gwrandawyr Radio Cymru i'w clywed yn gyson ar yr orsaf ar un cyfnod – cyswllt uniongyrcholÌýâ bywydau go iawn y rheiny sy’n troi aton ni - doedd hynny, ddim bellach, mor wir. Ac yn rhy amal doedd Radio Cymru ddim, meddech chi, yn siarad am y pethau roeddech chi'r gynulleidfa yn siarad amdanyn nhw. Doedd ein gorsaf ni ddim yn teimlo’n ddigon perthnasol i chi.

Beth am ddweud hyn felly?Ìý

Fe fydd lleisiau Radio Cymru, fel pob gorsaf radio arall, yn mynd a dod. Fe fydd yr amserlen yn newid o bryd i'w gilydd, stamp gwahanol yn cael ei roi ar batrwm y dydd. Felly mae hi. Ond ie, y bobol biau’r cyfrwng, y bobol i gyd, y rheiny sy’n gwrando nawr, y rheiny sydd angen eu denu nôl, a’r rheiny ddaw, gobeithio, aton ni o’r newydd.Ìý Adlewyrchu cyfoeth eich bywydau chi, ystod eich barn a'ch chwaeth chi fydd nod Radio Cymru, a chan fod hwnnw - diolch byth - yn ystod eang, mae’n rhaid mynd ati nawr i ehangu apêl Radio Cymru.

Os llwyddodd cyfranwyr y Sgwrs i gytuno ar un peth, dyna fe i chi: all Radio Cymru ddim bod yn bopeth i bawb. Hawdd ei ddweud ac yn llygad ei le, ond lle mae rhesymeg yn mynd â ni wedyn?Ìý

Dyw rhaglenni meddylgar, uchelgeisiol sy’n cystadlu ag amserlen Radio 4 ddim yn apelio at bawb ac yn tarfu ar y rheiny sydd am glywed cerddoriaeth drwy’r dydd. Ond fan hyn gewch chi rai o berlau Radio Cymru, y maeth, y diwylliant, yr arloesi, y cyfoeth.

Dyw rhaglenni llawn cerddoriaeth boblogaidd sy’n rhoi gwên ar wyneb ddim yn siwtio pawb ond dianc i wrando ar ‘falu awyr’ llwyddiannus Radio 2 wnaeth y garfan fwyaf o wrandawyr coll Radio Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Rhoi malu awyr llawn cystal yn y lle iawn ar Radio Cymru ddylai’n nod ni fod felly.Ìý

Yn y dyfodol, dyma fydd neges Radio Cymru i chi o ddydd Llun i ddydd Gwener: os y'ch chi am glywed rhywbeth newydd am y Gymru ry'ch chi'n byw ynddi, a'r byd mae'n rhan ohono, dewch at Radio Cymru yn y bore. Dewch aton ni amser cinio i herio, neu gyfoethogi'r hyn ry'ch chi'n gwybod yn barod. Fe fydd lle pwysig i holi, a phrocio - adlais arall gwerthfawr o'r gorffennol - yn sŵn yr orsaf dros ginio. Yn y prynhawn, joiwch gyda ni. Dewch i gael dipyn bach o sbort, cystadlu, canu, dychan a chwerthin yng nghwmni Radio Cymru. Ar ôl awr o newyddion - a phigion y gorau o ddarlledu'r dydd - dewch i drio rhywbeth newydd, arbenigol, apelgar, cyn noswylio gyda'r cyfarwydd.

Ehangu’r apêl amdani felly, a derbyn na fydd pob rhaglen yn apelio at bawb. Ond fe fydd pob un yno i bwrpas, i apelio at rywun. Fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun.ÌýÌýÌý

Os gallwn ni'ch darbwyllo chi i aros gyda ni drwy'r dydd, wrth i ni ddarlledu o Fangor, Caerdydd, Caerfyrddin ac Aberystwyth - Bonws! Fe wnewn ni’n gorau.

Beth am y gerddoriaeth ar Radio Cymru?

Yn ystod yr oriau brig fydd Radio Cymru’n chwarae'r gorau o gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd o’r 60au hyd at heddiw.

Gyda help llaw tîm Radio Cymru, dwi am weld yr orsaf yn magu 'sain gerddorol' sy'n gyson, heb fod yn undonog, yn amrywiol heb fod yn fratiog ac anesmwyth i chi sy'n gwrando. Roedd honno’n neges gref ddaeth o’r Sgwrs hefyd. Fe fydd barn gan gyflwynwyr am gerddoriaeth ac apêl eang i'r hyn sy’n cael ei chwarae. Fe fydd Radio Cymru'n parhau i fod yn gyrchfan i'r rheiny sydd am glywed cerddoriaeth newydd, a'r gorau - a dim ond y gorau - o'r caneuon hynny’n cael eu cyflwyno i chi, a’u dathlu yn ystod y dydd.Ìý

Y tu hwnt i’r oriau brig fe fyddwn ni'n arbenigo, yn arloesi ac yn cynnig rhywbeth cerddorol gwahanol. Y nod yw'n bod ni'n rhoi amrywiaeth liwgar i chi o gyfoeth diwylliannol a cherddorol Cymru a'r byd. Fe ddaw cynllun Gorwelion i rym cyn bo hir i roi cyfle i dalentau cerddorol newydd ffynnu, a rhoi mwy o gyfle i Radio Cymru ddarlledu’n fyw o wyliau a digwyddiadau ar eich patsh chi.Ìý

Gyda llaw, byrdwn y 'Sgwrs' oedd y dylai Radio Cymru fod yn orsaf sy'n chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf. Mae lle, meddech chi, i beth cerddoriaeth Saesneg ond ddim gormod. Felly y bydd hi.

Y dyfodol digidol

Dyma un cwestiwn mawr arall i’w daclo: i ba raddau all technoleg newydd roi cyfle i Radio Cymru gynnig mwy o ddewis i gynulleidfa sy'n crefu amrywiaeth?

Byrdwn gynnar gen i fel Golygydd Radio Cymru oedd nad penllanw'r 'Sgwrs' fyddai sefydlu ail orsaf genedlaethol, Radio Cymru 2. Yn bersonol, dwi o'r farn y byddai cael ail orsaf genedlaethol Gymraeg - o ba gyfeiriad bynnag y dele honno, boed y Ö÷²¥´óÐã â rhan yn ei sefydlu a’i rhedeg hi ai peidio - yn llesol i Radio Cymru. OndÌýwaeth bod yn onest a chlir o'r dechrau. Mae cyllideb Ö÷²¥´óÐã Cymru i ddarlledu yn Gymraeg a Saesneg wedi crebachu'n sylweddol, ac er bod DAB, sef radio digidol, yn raddol gyrraedd mwy a mwy o gymunedau ac yn rhoi cyfle i ni rannu’r gwasanaeth bob hyn a hyn, dyw’r dechnoleg honno ddim yn cynnig ateb hawdd. Drwy donfedd FM mae trwch gwrando Radio Cymru yn digwydd, a’r tebyg yw mai fel hyn y bydd hi am beth amser i ddod. Pe bae e’n ateb yr her o gynnig dewis i wrandawyr yn y dyfodolÌýfyddai neb yn hapusach eu byd na fi.Ìý

Os mai pwrpas ail orsaf fyddai cynnig dewis i'r gynulleidfa - wel yn hytrach na digalonni, oes yna ffyrdd eraill o gynnig y dewis hwnnw? Mewn gair, oes.

Y cam cyntaf yw hyn: sef y bydd Ö÷²¥´óÐã Cymru yn lansio gwasanaeth digidol Cymraeg newydd sbon yn gynnar yn 2014. Y gobaith yw y bydd y gwasanaeth hwnnw, ‘Cymru Fyw’ yn dod â‘r gorau o gynnwys digidol Ö÷²¥´óÐã Cymru i chi – yn gynnwys newyddion a straeon cyffredinol a’r cynnwys hwnnw ar gael arÌý gyfrifiaduron, ffonau symudol a thabledi. Bydd gweithgarwch Radio Cymru yn cael ei adlewyrchu gan Cymru Fyw. Ydi, mae’n gyd-ddigwyddiad hapus a chynhyrchiol. Ry'n ni wrthi nawr, ar y cyd a thîm newydd sbon Cymru Fyw, yn trio deall y posibiliadau creadigol, a'r potensial i gryfhau y Radio Cymru ddaw'n sgil y gwasanaeth digidol newydd.Ìý

Yn ail. Beth os y’ch chi’n gwrando ar Radio Cymru ac yn clywed cân ry’ch chi’n dwli arni? Cyn bo'n rhy hir fe fydd technoleg 'Playlister' yn caniatáu i chi droi at wefan Radio Cymru, gweld beth yw'r gân, ei nodi hi’n ddigidol a gwrando arni eto ar ddyfais sy’n eich siwtio chi, ar adeg sy’n gyfleus i chi.ÌýÌý

Yn drydydd, mae yna gymaint yn fwy dwi am wneud gyda gwrando ar Radio Cymru ar-lein – ar wefan yr orsaf neu drwy app.Ìý Mae mwy a mwy ohonoch chi’n dewis ‘gwrando eto’, dewis a dethol eich hoff glipiau ac yn lawrlwytho podlediadau o raglenni’r orsaf. Cwestiwn un drydarwraig yn ddiweddar oedd hyn: oni fydde fe’n beth gwych pe bae Radio Cymru yn rhoi archif cyflawn rhaglen Beti George ar y we? Mi fydde, ac wrth i Ö÷²¥´óÐã Cymru fynd ati i ddigido cynnwys ei llyfrgell yn y dyfodol, mi weithiwn ni’n galed i ffeindio cyfleoedd i wneud defnydd o archif aruthrol Radio Cymru.Ìý

Yn olaf, ond nid yn lleiaf, mae gwrando dros y we yn cynnig dewis. Gyda hynny mewn golwg, mi rydw i wedi dechrau archwilio a oes modd creu ‘jiwc-bocs’ cerddoriaeth Gymraeg ar y we – un porth i’r gerddoriaeth Gymraeg orau, bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos.ÌýÌýÌý

Fe wna i ddwy adduned arall cyn cloi.Ìý

Fe rown ni gyfle i leisiau newydd ar Radio Cymru. Fe ddangosodd y 70 anfonodd eu lleisiau i’n ‘Cais am Lais’ fod yna dalent i’w ganfod a’i fagu ar lawr gwlad.Ìý

Ac yn olaf, falle bod y ‘Sgwrs’ ar ben yn ffurfiol, ond un arall o negeseuon y drafodaeth honno oedd na ddylai’r gwrando ddod i ben. Digon teg. Rhan allweddol o’n swydd i felly fydd parhau i wrando ac ymateb. Mi ro i mhen ar y bloc, dod i gymdeithasau lleol a chenedlaethol, ac os galla i, dod i stiwdio Taro’r Post pan fydd y galw’n codi i drafod, gwrando ac egluro.

Os bydd pobol Radio Cymru’n teimlo mai nhw piau’r cyfrwng yn y dyfodol, dyna i fi fydd mesur pwysig iawn o lwyddiant.

Amdani nawr.Ìý

Betsan Powys
Golygydd Rhaglenni, Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru

Manylion amserlen newydd Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru, o ddydd Llun i ddydd Gwener, s’yn dechrau yn y gwanwyn:

5am – 6am: Rhaglenni amrywiol

6am – 8am: Post Cyntaf gyda Kate Crockett a Dylan Jones

8am – 10am: Dylan Jones

10am – 12pm: Bore Cothi gyda Shân Cothi

12pm – 12.30pm: Rhaglenni sy’n holi a phrocio

12.30pm – 1pm: Rhaglenni Nodwedd/Drama

1pm – 2pm: Taro’r Post gyda Garry Owen

2pm – 5pm: Tommo (o ddydd Llun i ddydd Iau) a Tudur Owen (dydd Gwener)

5pm – 6pm: Post Prynhawn gyda Dewi Llwyd

6pm – 6.15pm: Pigion

6.15pm – 7pm: Rhaglenni Dogfen/Nodwedd

7pm – 10pm: C2

10pm – 12am: Geraint Lloyd

Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: 20 Tachwedd 2013

Nesaf

Blog Ar Y Marc: Ffilm Class Of 92