Main content

Sgorio cic o'r smotyn ar ol yr ail gyfle!

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn eu gêm yn erbyn Everton y Sul diwethaf, aeth Manchester United ar y blaen er i Jordan Pickford yn y gôl i Everton, arbed cic o’r smotyn a gymerwyd gan Paul Pogba, dim ond i weld Pogba yn llithro’r bel a adlamodd yn dilyn arbediad y golwr, i gefn y rhwyd.

Agorodd hyn bwnc siarad gan rai cefnogwyr o'm cwmpas, sef, a ddylid newid y rheolau i sicrhau na all yr un a gymerodd y gic, yr hawl i gyffwrdd y bel (yn dilyn arbediad gan y golwr) nes i rywun arall gyffwrdd y bel yn gyntaf ?

Ar hyn o bryd, petai’r bel wedi taro'r postyn, neu'r trawst, ac adlamu yn ôl i'r cwrt cosbi, yna mae’ r rheolau yn ei gwneud hi’n glir na chaiff yr un a gymerodd y gic yr hawl i ail gyffwrdd y bel hyd nes y bydd rywun arall yn ei chyffwrdd yn gyntaf.

Ond, fel y Sul diwethaf, gan fod y golwr wedi cyffwrdd y bel, drwy'r arbediad, roedd gan Pogba bob hawl i sgorio.

Pwynt y ddadl oedd bod Pogba, mewn egwyddor, wedi methu ar y fantais a gafodd i sgorio yn uniongyrchol o'r smotyn, felly a ydyw’n deg iddo gael yr hyn sydd mewn egwyddor, yn ail gyfle?

Ond, gan ei fod yn sefyll ynghanol y cwrt cosbi, roedd yn y fan a’r lle i gael ail gynnig, er waethaf camp y golwr, a dyna’r hyn a ddigwydd wrth iddo lithro bel heibio Jordan Pickford.

Mae'r rheol yngl欧n â ble i sefyll pan mae cic o’r smotyn yn cael ei chymryd yn glir.

Rhaid i bob chwaraewr arall sefyll o leiaf ddeg llath oddi wrth y bel, (y tu hwnt i'r chwarter cylch sydd yn amgylchynu’r cwrt cosbi neu y tu allan i'r cwrt cosbi yn gyfan gwbl) wrth i'r gic o'r smotyn gael ei chymryd.

Felly roedd yn llawer anoddach i chwaraewyr Everton gyrraedd y bel i'w chlirio yn dilyn arbediad y golwr, gan adael Pogba, a fethodd fanteisio ar y cyfle, yn sefyll dim ond rhyw ddwy lathen i ffwrdd o'r bel, ac felly’n sgorio ar yr ail gyfle.

A ydi’n deg felly i roi mantais i un a fethodd ei gyfle cynta, a mynd ati i newid y rheolau i sicrhau tegwch a chydnabyddiaeth i gamp y golwr ?

Mewn sefyllfa o’r math yma, a ddylid cydnabod fod yr un a gymerodd y gic wedi methu’r fantais a roddwyd iddo, a sicrhau na all yr un a gymerodd y gic o’r smotyn gyffwrdd y bel eto, nes y bydd chwaraewr arall wedi cyffwrdd y bel yn gyntaf?

Rheol decach efallai, ac un sy’n cydnabod campau amddiffynnol y golwr ?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Podlediad i ddysgwyr: Hydref 21-27ain 2018