Main content

Rowndiau Agoriadol Gemau Ewrop

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

'Dwi erioed wedi credu os bydd timau Cymru yn gwneud eu marc ar y llwyfan Ewropeaidd, yna bydd angen iddynt fod yn dimau llawn amser.

Tydi canlyniadau ein timau ar y cyfandir dros y pythefnos diwethaf wedi gwneud dim i newid fy meddwl, a gyda’r Seintiau Newydd, ein unig dîm llawen amser, yr unig dîm i gamu 'mlaen i'r rownd nesaf, tydi hyn yn gwneud dim mwy na chadarnhau fy marn.

Do , fe gafwyd canlyniadau calonogol yn y cymalau cyntaf, gyda Chei Conna yn dangos yr hyn sydd yn bosibl, a petai'r Bala wedi chwarae yn well yn yr hanner cyntaf, yn y Rhyl yn erbyn y Bala, hwyrach y byddai pethau wedi bod yn well.

Trist oedd gweld Bangor yn cael eu chwalu ar stadiwm y Brifysgol yn Nantporth, ond dangosodd y gêm yma'r gwahaniaeth sy'n bodoli rhwng tîm llawn amser a thîm rhan amser.

Ond, diolch i'r Seintiau, fe fydd y fenter Ewropeaidd yn parhau am o leiaf pythefnos arall wrth iddynt ddangos agwedd hollol broffesiynol wrth ennill oddi carter yn Gibraltar, ar ôl colli yn y gêm gartref yn erbyn Coleg Ewropa.

Wynebu HNK Rijeka o Groatia ydi'r dasg nesaf, yn cychwyn oddi cartref nos Fawrth, a hyn yn erbyn tîm sy’n mynd i gynnig llawer mwy o drafferthion na allai'r pencampwyr o Gibraltar.

Llwyddodd Rijeka i guro Feyenoord o'r Iseldiroedd a Standard Liege o Wlad Belg dwy flynedd yn ôl ac mae'r tîm yn cynnwys dau amddiffynnwr profiadol sydd wedi cynrychioli Macedonia, sef Leonard Zhuta, a Stefan Ristovski.

Felly tipyn o dalcen caled o flaen y tîm o Groesoswallt.

Ond, cymerwch gysur, fe allaswn i gyd fod yn gefnogwyr o glwb Glasgow Rangers a gollodd yn hollol syfrdanol i Progress Niederkorn dros ddau gynnal - tîm rhan amser, a orffennodd yn y bedwerydd safle yng nghynghrair Luxembourg y llynedd.

Fawr o gynnydd yn Ewrop i'r Albanwyr - gobeithio yn bydd y Seintiau yn gallu symud ymlaen rhyw ychydig dros y pythefnos a ddaw.

Scott Quigley o'r Seintiau Newydd

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf